Cyngor Sir yn cyhoeddi Rhyfel yn erbyn Cymunedau Pentrefol Cymraeg

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Heddiw, gwnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin sioe fawr o gyhoeddi eu strategaeth nhw ar gyfer addysg yn y sir. A’u strategaeth nhw oedd hi – wedi’i chreu yn gyfangwbl gan swyddgion yn Neuadd y Sir.

YN OL I WEFAN www.cadwneinhysgolion.comYn union fel y cyhoeddodd eu cynllunwyr wrth bobl y sir ba bentrefi fyddai’n gorfod wynebu datblygiadau tai enfawr trwy’r Cynllun Datblygu Unedol, felly’n awr mae eu swyddgoion addysg yn dweud wrthym y bydd angen cau ysgolion di-ri er mwyn cyllido eu hysgolion canoledig newydd.· Cam gwag fydd pob ymgynghori gan y byddant yn ceisio glynu wrth eu cynllun beth bynnag.· Ni roddir mwy na brawddeg ystadudol o ystyriaeth i ddulliau amgen – mae’r tenblad yn bodoli ar gyfer pob adroddiad “ad-drefnu”, sef “Yr ydym wedi ystyried y dulliau eraill fel ffedereiddio ysgolion, ond nid yw’n addas yn yr achos hwn.” Yr un geiriau bob tro.· Nid yn unig fod ymddygiad y Cyngor Sir yn gwneud nonsens o ymgynghori cyhoeddus ac o ganllawiau’r Cynulliad o ran ystyried effaith ar gymunedau lleol ac ystyried dulliau eraill, ond mae hefyd yn NONSENS ARIANNOL. Wedi cau ysgolion, mae adran wahanol o’r Cyngor Sir wedyn yn mynd ati i ddarbwyllo pentrefwyr i chwilio am luaws o grantiau cymhleth i wella’r union adeiladau a oedd yn rhy wael i fod yn ysgolion. O dan baner “datblygu cymunedol” cyflogir byddinoedd o hyrwyddwyr a chydlynwyr i fynd trwy’r coedwig grantiau gan wastraffu amser maith yn llunio ceisiadau.Gwrth-strategaeth Cymdeithas yr Iaith yw cyfuno cyllidebau Addysg a Datblygu Cymunedol a gwir ymgynhori gyda chymunedau lleol am waith uned addysg/datblygu cymunedol ym mhob penteref ac ym mhob cymdogaeth drefol. Gallent fod yn wir beiriannau i adfer ein cymunedau Cymraeg a chynnig profiad addysgol eang i’r plant yn eu cymuned eu hunain gan ddod â nhw ynghyd i ganolfannau ar gyfer gweithgareddau arbennig.Efallai mai’r cam creulonaf ar ran Cyngor Sir mwyaf di-gywilydd Cymru yw ecsbloetio rhieni sydd wedi colli eu hysgolion pentref i ddatgan fod y drefn ganolog newydd yn well. Wrth gwrs y byddant yn dymuno’r gorau posibl i’w plant yn y drefn newydd. Ni chafodd yr holl rieni eraill – sydd wedi gweld eu gobeithion ar gyfer eu plant wedi’u dryllio – wahoddiad i soe’r Cyngor Sir.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Teifi SeidStori oddi ar wefan y South Wales Guardian