Etholiadau Lleol: Herio'r pleidiau i greu'r miliwn o siaradwyr Cymraeg

Cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, mae ymgyrchwyr iaith wedi herio'r pleidiau i ymrwymo i gymryd camau'n lleol i gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. 

Mewn llyfryn polisi, mae'r mudiad yn galw ar ymgeiswyr yn yr etholiadau ym mis Mai i ymrwymo i gymryd camau er mwyn gwireddu tri nod sydd eisoes wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol, sef: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn; atal yr allfudiad; a galluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ymhob rhan o fywyd.  

Ymysg y galwadau mwy penodol i weithredu'n lleol, mae’r mudiad yn gofyn ar i ddarpar gynghorwyr gefnogi camau fydd yn: 

  • Normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg   
  • Cryfhau gweinyddiaeth fewnol Gymraeg   
  • Cryfhau'r Gymraeg drwy'r system gynllunio a sicrhau bod targedau tai yn seiliedig ar anghenion lleol   
  • Hyrwyddo economi Gymraeg, a blaenoriaethu buddiannau busnesau bychain lleol ynghyd â chynnal asesiadau o effaith datblygiadau ar yr economi a'r gymuned leol   
  • Cryfhau democratiaeth leol gan gadw gwasanaethau yn atebol i gynghorwyr lleol   
  • Cryfhau gweithgareddau diwylliannol Cymraeg a chefnogi mesurau i drosglwyddo'r iaith o fewn teuluoedd  

[Cliciwch yma i weld y ddogfen lawn]

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Mae'r Llywodraeth yn ganolog wedi gosod nod i greu miliwn o siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg. Ond mae angen i gynghorau lleol weithredu llawer o newidiadau polisi er mwyn cefnogi'r uchelgais yna.  

"Er enghraifft, ar lefel genedlaethol mae 80% o blant yn cael eu hamddifadu o'r gallu i siarad Cymraeg. Ond mae canran uchel ym mhob un sir yn dilyn llwybr 'ail iaith' ac yn sefyll arholiad eilradd 'ail iaith' - mae'r union ganran yn amrywio o oddeutu 19% yng Ngwynedd lan i 96% yn Sir Fynwy. Ddylai'r system addysg ddim gadael yr un plentyn yn y wlad heb y gallu i weithio a chyfathrebu'n rhugl drwy'r Gymraeg. Mae hynny'n her i bob ardal o Gymru."   

"Hefyd, o ran yr economi, mae angen camau i flaenoriaethu buddiannau busnesau bach a lleol er mwyn cadw cyfoeth yn ein cymunedau lleol. Ac mae angen asesu datblygiadau o ran eu heffaith ar y gymuned a'r economi leol. Rydyn ni wedi gweld nifer o gynghorau'n plygu i bwysau gan gwmnïau mawrion megis Starbucks a Costa. Yn lle hynny, mae angen hybu siopau lleol, gan eu bod yn cynnig mwy o fudd i'r gymuned, busnesau lleol a'r iaith."  

Bydd grwpiau ac aelodau lleol Cymdeithas yr Iaith nawr yn mynd ati i ofyn i ymgeiswyr lleol gefnogi'r galwadau cyn yr etholiadau.