Galw ar i Gyngor Ceredigion rwystro twf ail gartrefi

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gyngor Sir Ceredigion i ddefnyddio ei bwerau newydd i rwystro’r twf mewn ail gartrefi. 

Yn ôl y Cyfrifiad, bu cynnydd o 30% yn y nifer o dai gwyliau ac ail gartrefi yng Ngheredigion rhwng 2011 a 2021. 

Yn ddiweddar, ymgynghorodd Cyngor Gwynedd ar ddefnyddio grym newydd i ofyn am gais cynllunio er mwyn newid defnydd tŷ i ail gartref, ac mae Conwy ar fin gwneud hefyd. Ond nid yw Cyngor Ceredigion wedi gweithredu yn yr un modd eto. 

Ym mis Hydref y llynedd, dywedodd Cyngor Ceredigion: “fel y cam cyntaf, bydd y cyngor yn edrych ar ddichonoldeb gofyniad i gael caniatâd cynllunio i droi tŷ preswyl yn llety gwyliau neu ail gartref.” 

Dywedodd Tamsin Davies o Ranbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:

“Ceredigion yw un o’r siroedd sy’n dioddef fwyaf oherwydd ail gartrefi a phrinder tai fforddiadwy. Yng Ngheredigion mae'r ganran uchaf o’r stoc tai yn ail gartrefi ac mae prisiau tai tua 10 gwaith y cyflog lleol cyfartalog, felly mae angen i Geredigion weithredu ar frys a defnyddio’r holl rymoedd newydd sydd ganddynt.

“Dylai Cyngor Ceredigion ddilyn Gwynedd gan ymgynghori ar wneud y sir gyfan yn ardal lle mae angen caniatâd cynllunio i droi tŷ yn ail gartref. Dydyn ni ddim yn siŵr pam fod oedi ar y gwaith hwn. Dyw hi jyst ddim yn iawn bod gan rai pobl fwy nag un tŷ tra bo eraill yn methu fforddio dim un.” 

Ar hyn o bryd, dim ond codi 25% yn fwy o dreth cyngor mae Cyngor Ceredigion ar ail gartrefi, sy’n llai na’r 100% a ganiateir gan y gyfraith yng Nghymru ers 2015. 

Eleni, enillodd cynghorau’r hawl i godi’r dreth i 300%. Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi penderfynu codi’r dreth i 150% o fis Ebrill 2024 ymlaen.

Mae Cyngor Ceredigion wrthi'n ymgynghori ar gynnydd posibl yn y dreth ar ail gartrefi, sy'n cau ddydd Sul (29 Tachwedd). Mae rhagor o fanylion i’w gweld yma: http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/bremiymau-treth-gyngor-ail-gartrefi-ac-eiddo-gwag-hirdymor/. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar drigolion Ceredigion i ymateb o blaid cynyddu’r premiwm i 300%.

Dangosodd ymchwil y mudiad iaith yn 2019 fod Cyngor Gwynedd wedi codi £2.2 miliwn ychwanegol mewn bwyddyn yn unig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus trwy godi treth uwch ar ail gartrefi.

Ychwanegodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n croesawu ymgynghoriad y Cyngor ar gynyddu’r dreth ar ail gartrefi. Fodd bynnag, mae’n destun pryder bod swyddogion Cyngor Ceredigion wedi bod yn llusgo eu traed. Dyw pobl gyffredin ddim yn gallu aros - mae Ceredigion wedi gweld pobl ifanc yn gadael y sir ar lefel uwch na’r un man arall. Mae hynny’n rhannol achos nad ydyn nhw’n gallu fforddio’r un tŷ tra bod y bobl gyfoethog gyda mwy nag un. 

“Ar adeg pan fod gwir angen mwy o arian i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae’n hanfodol bod y cyngor yn defnyddio’r holl bwerau hyn i’w heithaf cyn gynted â phosibl. Mae Cyngor Gwynedd yn amlwg ymhell ar y blaen, ac maen nhw’n buddsoddi mwy mewn tai i bobl leol o ganlyniad.”

“Rydyn ni’n wynebu argyfwng tai - ac mae cynyddu’r dreth cyngor uwch i’r lefel uchaf posibl yn un o becyn o fesurau mae angen i Geredigion eu gweithredu cyn gynted ag y gallan nhw.”