Lansio Siarter Sir Gâr

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Dros nos y mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi codi baner fawr ar sgaffaldau’n wynebu Neuadd y Sir Caerfyrddin o flaen cyfarfod o’r Cyngor llawn heddiw.

Mae’r faner yn galw ar gynghorwyr i roi heibio eu Cynllun Datblgyu Unedol a’u Cynllun Trefniadaeth Ysgolion a mabwysiadu’n hytrach Siarter Sir Gâr – sef strategaeth radicalaidd newydd gan Gymdeithas yr Iaith i ddatblgyu’r iaith a chymunedau Cymraeg yn y sir. Bydd aelodau o’r Gymdeithas yn rhannu copiau o’r Siarter i gynghorwyr rhwng 9am-10.30am heddiw o flaen Neuadd y Sir.Yn ogystal ag ailadrodd galwad y Gymdeithas am wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol y Cyngor ac am ddatblygu unedau addysg a datblygu cymunedol ym mhob pentref a chymdogaeth drefol, mae Siarter Sir Gâr yn cynnwys nifer o alwadau radicalaidd newydd e.e.* Categoreiddio ieithyddol ar gymunedau’r sir – ar batrwm categoreiddio ysgolion. Yn y cymunedau Categori A, byddai amddiffyn cadarn ar yr iaith mewn addysg, iaith y cyngor cymuned, polisiau tai a chynllunio. Y nod fyddai i gymunedau category B a C ddatblygu dros gyfnod i gategori A. Credwn fod yma ateb mwy ymarferol na honni ar y naill law fod angen yr un polisi iaith i Gymru – neu’r sir – gyfan nac ar y llaw arall honni fod “Fro Gymraeg” ar wahân yn bodoli.* Unedau tai i bobl ifainc mewn pentrefi Cymraeg.* Trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl anghenion pobl ifainc hefyd – fel y gallent fyw mewn pentrefiCymraeg ac eto deithio’n hwylus i drefi ar gyfer gwaith ac adloniant hwyr. Gallai mini-bws hanner nos yn ôl i’r pentrefi ddod yn gyffredin !* Twristiaeth cymuned-gyfeillgar ( ar batrwm twristiaeth eco-gyfeillgar) gan ddefnyddio’r elw igryfhau diwylliant ieuenctid yn Gymraeg.Wrth lansio Siarter Sir Gâr, dywedodd Sioned Elin (cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin)“Nid ydym ond yn disgwyl i’r Cyngor weithredu yr hyn y mae nhw eu hunain wedi’i basio – wrthiddynt wneud diogelu’r iaith a chymunedau Cymraeg yn nod yn eu Strategaeth Gorfforaethol. I’rgwrthwyneb y mae’r gwirionedd. Mae’r CDU yn bygwth llawer o bentrefi Cymraeg trwy ddatblygiad stadau tai enfawr wedi’u hanelu at bobl o du fas, tra bo’r Cynllun Trefniadaeth Ysgolion yn bygwth tynnu i ffwrdd o’n cymunedau Cymrae yr adnodd pwysicaf sydd ganddynt, sef yr ysgol. Yn bell o hyrwyddo’r iaith, nid yw’r Cyngor yn gwneud fawr dim defnydd o’r Gymraeg yn ei weinyddiaeth ei hunan."Stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Carmarthen JournalGellir lawrlwytho copi o'r siarter trwy bwyso yma.