Efallai eich bod wedi gweld y fideos a'r llythyrau dychanol diweddar gyda Carwyn Jones a Meri Huws yn galw arnoch chi i beidio ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fel cadeirydd presennol y mudiad, hoffwn eich annog i beidio cymryd sylw, a bwrw ati i ymaelodi. Byddai peidio ag ymaelodi yn ei gwneud hi'n haws i'r Llywodraeth wneud hyd yn oed llai dros y Gymraeg.
Ewch i cymdeithas.cymru/ymaelodi – mae angen eich cefnogaeth arnon ni. Os ydych chi'n aelod, beth am annog i'ch cyfeillion wneud hynny? Os nad ydych yn siwr ydych yn aelod ai peidio, croeso i chi gysylltu â ni! Gyda'n gilydd, llwyddon ni! Ac fe lwyddwn ni eto.
Nid mudiad arferol ydyn ni, ond cymdeithas o bobl sy'n dibynnu arnoch chi. cymdeithas.cymru/ymaelodi
Mae llawer wedi ei gyflawni dros y Gymraeg dros y degawdau oherwydd brwdfrydedd pobl o bob rhan o Gymru. Cenhedlaeth o bobl a gyflawnodd, drwy gael enillion fel:
- S4C
- Hawliau a statws swyddogol i'r Gymraeg,
- Coleg Cymraeg
Rydyn ni, fel mudiad, yn gwneud cyfraniad drwy sianelu ymdrechion a mynnu ymateb gan y rhai mewn grym, gan gadw ein llygaid ar y nod o Gymru lle mae pawb yn gallu byw yn Gymraeg. Mae llawer iawn eto i’w wneud os ydyn ni am wireddu'r weledigaeth o Gymru rydd Gymraeg.
Os bydd pobl fel chi yn ymaelodi â ni, gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn ni gyflawni llawer mwy dros y blynyddoedd i ddod:
- Addysg Gymraeg i Bawb – er mwyn i bob plentyn allu siarad Cymraeg a gweithio'n Gymraeg
- Cyfundrefn Eiddo a Chynllunio sy'n llesol i'r iaith – er mwyn i'r Gymraeg ddod yn brif iaith gymunedol mewn rhagor o gymunedau ar hyd a lled y wlad
- Darlledwr Newydd Aml-Blatfform – ar-lein, ar radio a phlatfformau eraill – er mwyn i'r Gymraeg fod yn fwy gweladwy a chlywadwy, yn enwedig i bobl ifanc.
Rydych chi wedi llwyddo i ennill llawer dros y Gymraeg, ond mae llawer o waith i’w wneud eto er mwyn creu gwlad lle mae pawb yn gallu byw yn Gymraeg.
Nid mudiad arferol ydyn ni, ond cymdeithas o bobl. Ymunwch â ni. Dychwelwch ffurflen atom neu ewch i cymdeithas.cymru/ymaelodi
Cofion cynhesaf,
Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth SY23 2AZ
cymdeithas.cymru
@cymdeithas
facebook.com/cymdeithas