02/07/2016 - 13:30
Mae Caerdydd wedi bod yn ddinas amlddiwylliannol erioed, a’r Gymraeg yn cydblethu â nifer o gymunedau, diwylliannau ac ieithoedd eraill.
Bydd ein trafodaeth yn ystyried y sefyllfa heddiw.
- Ym mha ffyrdd gall diwylliannau amrywiol Caerdydd gyfoethogi ei gilydd?
- Oes modd i’r frwydr dros yr iaith gydweithio â brwydrau cymunedau lleiafrifol eraill?
- Ac yn wyneb parhad agweddau hiliol ac ymatebion negyddol i ffoaduriaid ar draws Ewrop, a oes croeso Cymreig, a Chymraeg, i fudwyr yn ein prifddinas?
Dewch i drafod sut gallwn sicrhau bod y Gymraeg wir yn briodiaith ein prifddinas, ac yn perthyn i bawb sy’n byw yma.
Pabell "Byw yn y Ddinas"
Ffair Tafwyl
Dydd Sadwrn 2 mis Gorffennaf 2016
13:30 - 14:30
(Panel i'w gadarnhau!)