Noson Pride: 30 Mlynedd ers Streic y Glowyr

26/05/2015 - 19:00

Bydd y digwyddiad am 19:00 ar y 26/05/2015 (nos Fawrth) yng Nghlwb Rygbi Nelson, Ffos-y-Gerddinen, (Nelson), Caerffili.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili bydd Stonewall Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal digwyddiad ar y cyd i gofio 30 mlynedd ers streic y glowyr. Yn hanesyddol mae'r mudiad iaith a'r mudiad hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws wedi cefnogi brwydr y Streicwyr.

Bydd dangosiad am ddim o'r ffilm Pride yna trafodaeth banel yng nghwmni:

Sian HOWYS - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Andrew WHITE - Cyfarwyddwr Stonewall Cymru
Adam PRICE - gwleidydd ac academydd

Mae'r ffilm, sydd wedi ei osod yn Nyffryn Dowlais yn ne Cymru, yn portreadu cyfuniad rhwng ymgyrchwyr hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws a gweithwyr y pyllau glo yn 1984.

Yn y drafodaeth banel byddwn yn cyffwrdd ar y themâu o sut a wnaeth mudiadau gwahanol gefnogi Streic y Glowyr fel ffrynt radicalaidd yng Nghymru a sut mae'n berthnasol i ni heddiw mewn oes o lymder.

Beth yw'r gwersi allwn ddysgu o Streic y Glowyr ar gyfer ein ein brwydrau dros gyfiawnder cymdeithasol heddiw?

Dewch i'r noson a cyfrannwch i'r drafodaeth!

[Digwyddiad Weplyfr]