Ymunwch gyda Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y 1af o Hydref a phaentio'r dre'n wyrdd gyda cherddoriaeth, bwyd a llond lle o hwyl!
Mae Network Rail wedi addo ers mis Gorffennaf i gywiro yr arwydd sarhaus yn orsaf drennau Heol y Frenhines. Serch hynny, does dim wedi newid. Does dim dyddiad ar gyfer dadorchuddiad arwydd newydd a nid yw Network Rail wedi datgelu unrhyw gynlluniau ar gyfer newydd yr arwydd - dim ond ymffrostio yn eu cyfarfodydd gyda'r Comisiynydd Iaith.
Digon o'r siop siarad Network Rail! Mae'n amser i chi weithredu!
Rydym yn trefnu protest-barti ar gyfer y cyntaf o Hydref, erbyn hynny yr ydym yn disgwyl y bydd yr arwydd wedi newid a cawn achos i ddathlu, heb hyn bydd rhaid i ni barhau i brotestio.
Dewch yn eich dillad parti gorau, gyda danteithioni'w rannu!