Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Ymgyrchoedd)

11/05/2024 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 11 Mai 2024

Cyfarfod dros Zoom

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio). 

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ymgyrchoedd fydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar waith y grwpiau ymgyrchu.

Mae croeso i bob aelod yng nghyfarfodydd y Senedd, ond dim ond swyddogion etholedig sydd â'r hawl i bleidleisio. 

Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os ydych yn bwriadu dod