Rhybudd na fydd deddfwriaeth mewn rali Deddf Eiddo ym Mlaenau Ffestinog

Mynychoedd gannoedd rali a gorymdaith Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (4 Mai) i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo fyddai’n mynd at wraidd yr argyfwng tai, a sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf oll fel anghenion cymunedol ac nid asedau ariannol er mwyn gwneud elw.

Ond, daeth rhybudd na fyddai deddfwriaeth ystyrlon yn cael ei phasio yn nhymor y Senedd hon heblaw bod ymdrechion ac ymgyrchu o’r newydd.

Ymysg y prif siaradwyr oedd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis, Craig ab Iago, deilydd portffolio tai Cabinet Gwynedd, Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor-Meirionnydd.

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas fod y mudiad wedi cynnal cynhadledd genedlaethol gydag arbenigwyr yn y maes i drafod Deddf Eiddo, a bod aelodau o'r Gymdeithas wedi parhau'r trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ers hynny.

Er hynny, dywedodd nad oes bwriad gan Llywodraeth Cymru i wirioneddo fynd i’r afael â’r argyfwng:

“Cyhoeddir Papur Gwyn y Llywodraeth ar Yr Hawl i Dai Digonol yn yr haf eleni, ond gallwn ni gyhoeddi nawr ar ran y Llywodraeth nad oes bwriad i gyflwyno Deddf Eiddo yn y tymor seneddol hyd 2026. Yn wir, fe gawson ni'r argraff mai'r bwriad yw cefnu ar unrhyw gamau polisi radicalaidd cyn yr etholiad gan ddilyn arddull eu harweinydd Prydeinig Keir Starmer, a hyn er gwaethaf degawdau o ymgyrchu ac er gwaethaf argyfwng ein cymunedau Cymraeg, sy’n colli tir fis ar ôl mis. Gwell gennyn nhw ein bod ni'n colli ein cartrefi ni, na cholli eu cartref yn y Senedd.

“Dyma pam y byddwn yn cychwyn ymgyrch newydd yma heddiw i gael miloedd o bobl i lofnodi galwad 'Deddf Eiddo - Dim Llai' a chyflwyno'r galwad i Lywodraeth Cymru mewn mis ar faes Eisteddfod yr Urdd, prifwyl Ieuenctid Cymru. Ni fydd Papur Gwyn yn dderbyniol heb ymrwymiad i Ddeddf Eiddo a fydd yn darparu tai i'n pobl ifanc yn eu cymunedau, a bydd ein hymateb i'r Papur Gwyn yn amlygu hynny yn yr haf."

Dywedodd Beth Winter AS:

“Y bobl sy'n byw a gweithio yng Nghymru sy'n y sefyllfa orau i wybod beth sydd ei angen yn ein cymunedau, a phenderfynu sut caiff cyfoeth ei greu. Dyna pam mae'r Ddeddf yma mor bwysig.

“Dylai fod tai digonol fod yn hawl i bawb, nid braint i’r rheiny sy’n gallu ei fforddio. Mae'r Ddeddf Eiddo yma'n ddolen arall yn y gadwyn tuag at greu Cymru decach, well.”

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd lleol a llefarydd ei blaid ar dai:

“Mae fy inbocs i yn llawn o athrawon, cymhorthyddion, nyrsys sy'n methu fforddio tai i fyw yn y cymunedau yn maen nhw'n gweithio.

“Dyna'r argyfwng da ni'n byw trwyddi, a pham bod heddiw a Deddf Eiddo mor bwysig. Dylai bod gan bawb yr hawl i fyw mewn tŷ sy'n diwallu eu hanghenion ffisegol, sy'n diwallu eu hanghenion economaidd, sy'n diwallu eu hanghenion diwylliannol.”