Ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad ar ganllaw anstatudol yn ymwneud â chategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg (2021)

Pwyswch yma i lawrlwytho'r ymateb llawn fel pdf

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad ar ganllaw anstatudol yn ymwneud â chategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

    1. Cyflwyniad
        1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
        1.2. Mae effeitholrwydd y system addysg i greu siaradwyr newydd yn gwbl ganolog ac allweddol i strategaeth iaith y Llywodraeth: nid oes modd fforddio peidio â chyflawni yn y maes hwn. Mae tynged holl strategaeth y Llywodraeth yn y fantol.
        1.3. Nid oes amheuaeth bod y system addysg bresennol yn gwbl anaddas i gyflawni’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen. Ar sail y ‘twf’ ers 2010, byddai’n cymryd:
    • 1,560 o flynyddoedd i sicrhau bod pob plentyn 7 mlwydd yn cael addysg cyfrwng Cymraeg;
    • a 352 o flynyddoedd i gyrraedd targed y Llywodraeth o 40% o blant 7 mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.
        1.4. Cyflwynwn argymhellion a sylwadau manwl ar y canllaw arfaethedig is-law. Fodd bynnag, credwn fod angen dybryd i’r Llywodraeth nesaf gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn unol ag argymhelliad ei phanel o arbenigwyr ei hun, Bwrdd Cynghori Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Er ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion swyddogion i wneud eu gorau o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae’n gwbl amlwg bellach bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyflawni gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Llywodraeth.
        1.5. Ymhellach, mae’r newidiadau i’r categorïau hyn yn codi cwestiynau eraill am bolisi addysg y Llywodraeth, yn benodol cwestiynau ynghylch y cymhellion ariannol a chamau i gynllunio’r gweithlu sydd eu hangen. Galwn ar y Llywodraeth i gyhoeddi camau gweithredu pendant a newidiadau sylweddol yn y meysydd hyn, a hynny’n fuan.

    2. Prif sylwadau
        2.1. Mae’n prif argymhellion a sylwadau ar y canllaw arfaethedig fel a ganlyn:
    • Cytunwn fod rhaid diwygio’r system bresennol o gategoreiddio ysgolion a newid eu darpariaeth er mwyn annog y twf mewn addysg Gymraeg sydd ei angen;
    • Croesawn ddatganiad y Llywodraeth mai bwriad y polisi yw ‘cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg’ ac yn cymeradwyo’r amcan o ‘hwyluso cynnydd ysgolion ar hyd eu taith ieithyddol’ a ‘hwyluso'r broses o symud ysgol o un categori i'r llall’. Mae’r cyfarwyddyd pendant hwn yn glodwiw ac mae angen yr arweiniad hwn o’r llywodraeth ganolog ar awdurdodau lleol ac ysgolion;
    • Fodd bynnag, nid yw’r dogfennau yn cynnwys unrhyw gynigion pendant ar sut i hwyluso a chymell symud ysgolion ar hyd y continwwm, a heb gymhelliant na chefnogaeth ychwanegol, ni fydd y nod yn cael ei wireddu;
    • Croesawn y ffaith fod y cynigion yn lleihau’r nifer o gategorïau, ac felly’n golygu bydd modd i ysgol gynyddu maint ei darpariaeth Gymraeg yn gyson heb orfod mynd trwy’r broses ymgynghori o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion cymaint o weithiau;
    • Fodd bynnag, pryderwn fod y modd mae’r categorïau newydd wedi’u llunio yn rhy eang i sicrhau cynnydd, a chynnydd ystyrlon, ac maent felly yn methu cyflawni’r nod polisi;
    • Yn benodol, mae’r categori ‘ysgol cyfrwng Cymraeg’ newydd drafft ar gyfer ysgolion uwchradd mor eang ei fod yn ddiystyr, a bydd yn tanseilio ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol ac yn methu o ran annog cynnydd mewn darpariaeth ysgolion sy’n darparu canran is o’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd achos ni fydd cymhelliant iddynt wneud hynny;
    • Dylai categori ysgol cyfrwng Cymraeg gyfeirio at yr ysgol gyfan nid at ffrwd yn unig, a dylai ysgolion dwy ffrwd fod yng nghategori 2 Cymraeg/Saesneg;
    • Credwn fod angen defnydd o is-gategorïau yn y sector uwchradd er mwyn gwahaniaethu rhwng gwahanol lefelau o ddarpariaeth, gwarchod y diffiniad presennol o ysgol cyfrwng Cymraeg ac annog pob ysgol i symud tuag at y model hynny;
    • Cynigiwn fyddai ymgynghoriad cyhoeddus wrth symud categori (fel sy’n ofynnol o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion) ond gall symud i fyny is-gategori ddigwydd trwy benderfyniad rhwng yr awdurdod lleol a’r ysgol;
    • Croesawn gyflwyno categorïau trosiannol i hwyluso taith ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol, ond credwn fod angen newid y cyfnod gall ysgol fod mewn categori trosiannol fel nad oes isafswm, a bod uchafswm o 5 mlynedd;
    • Cymeradwyn yr egwyddor craidd o beidio symud yn ôl, ond mae angen cryfhau’r egwyddor fel ei fod yn ei wneud yn glir mai’r disgwyliad yw na fydd ysgolion yn cynnig llai o ddarpariaeth Gymraeg yn y dyfodol nag a wnaethpwyd yn y gorffennol, naill ai drwy symud categori neu leihau ei darpariaeth oddi fewn ystod ei chategori presennol;
    • Mae angen cryfhau’r disgwyliad y bydd ysgolion yn symud i fyny’r categorïau (oddi fewn a rhyngddynt) os yw’r newidiadau’n mynd i gyflawni’r nod polisi o gynyddu darpariaeth Gymraeg, a chefnogi strategaeth iaith ehangach y Llywodraeth;
    • Pryderwn nad oes mecanwaith newydd na gwahanol ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion Saesneg. Mae rhoi sylw i hyn yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o hanner y disgyblion sy’n mynd i ysgolion Saesneg yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Nid ydym yn argyhoeddig bod y canllaw fel y mae yn ddigonol er mwyn cyrraedd targedau’r Llywodraeth;
    • Yn ôl diffiniad ysgolion Saesneg yn y canllaw drafft, maen nhw’n methu o ran cyflawni’r nod honedig. Rhaid felly cyflwyno cynllun ar cyd â’r canllaw hwn ar gyfer symud yr holl ysgolion categori 1 i gategori 2 ar frys, gan gychwyn gydag ysglion cynradd;
    • Dylid newid y drefn o rifo’r categorïau fel mae ar hyn o bryd, fel bod y rhifau’n codi i 1 o ran eu defnydd o'r Gymraeg, nid mewn trefn disgyn, er mwyn pwysleisio cynnydd. Hynny yw, dylai’r drefn rhifo yn y categorïau cynradd ac uwchradd newid fel ei bod yn mynd o 3 > 1 ac ysgol cyfrwng Saesneg fydd categori 3, ac ysgol cyfrwng Cymraeg fydd categori 1;
    • Nid yw’n glir beth fydd y drefn fonitro i gydfynd gyda’r canllaw newydd. Dylid sefydlu system monitro cryf wedi’i oruchwylio gan Estyn i sicrhau bod ysgolion yn cynnal a chynyddu eu darpariaeth Gymraeg;
    • I gydfynd â’r newidiadau i’r system categoreiddio, mae angen cymelliannau a chamau gorfodi clir er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar eu targedau a’u hamcanion o dan Reoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, trwy symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol a/neu agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd;
    • Mae hefyd angen pecyn o adnoddau ychwanegol ar ysgolion ac awdurdodau lleol i’w cynorthwyo i gynyddu darpariaeth Gymraeg. Dylai’r canllaw amlinellu’n fanwl y cymorth a’r camau polisi cadarn newydd a weithredir gan y Llywodraeth ac asiantaethau eraill er mwyn eu cynorthwyo a’u cymell i gyflawni ar y nod o symud ysgolion i fyny’r categorïau;
    • Nid yw’n glir o’r dogfennau ymgynghori sut mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r canllaw anstatudol newydd hwn rhyngweithio ag elfennau statudol o’r system addysg a’u hatgyfnerthu o ran annog twf addysg Gymraeg, megis y Cod Trefniadaeth Ysgolion a rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Mae’r materion sy’n codi wrth ystyried y canllaw hwn yn tanlinellu’r angen am strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth ar gyfer tyfu addysg Gymraeg, a newid yn y ddeddfwriaeth sylfaenol yn nhymor nesaf y Senedd.