Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Ymgynghoriad ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth)

Pwyswch yma i lawrlwytho ein hymateb

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru ers dros 60 mlynedd.

Er bod y Safonau drafft newydd wedi eu newid rywfaint yn unol â sylwadau i’r ymgynghoriad ar y Safonau blaenorol, mae sawl peth a godwyd gennym yn ystod yr ymgynghoriad blaenorol sydd heb eu cynnwys, sy’n golygu na fydd pobl Cymru yn cael y gwasanaethau Cymraeg y dylent ei gael.

Mae’n bwysig nodi hefyd, wrth osod Safonau ar gyrff, bod angen pwysleisio a bod yn glir mai isafswm yw’r Safonau, nid uchafswm i anelu i’w gyflawni. Ar hyn o bryd, mae nifer o gyrff yn trin y Safonau fel rhywbeth i gyrraedd atynt, heb fynd dim pellach. Mae gwir angen newid y meddylfryd hwnnw.