Ymateb i Adroddiad Donaldson

YMATEB CYMDEITHAS YR IAITH I ADRODDIAD DONALDSON 8.5.15

Yn dilyn trafodaethau ymhlith ein haelodau o ddadansoddiad ac argymhellion adroddiad yr Athro Donaldson, mae Cymdeithas yr Iaith am gyfyngu ein sylw i ddau faes penodol

1) RHAID TERFYNU'R CYSYNIAD O "CYMRAEG AIL IAITH" SYDD WEDI METHU'N LLWYR, A GOSOD YN EI LE UN CONTINWWM DYSGU CYMRAEG I BOB DISGYBL YN UNOL AG ARGYMHELLION ADRODDIAD YR ATHRO SIONED DAVIES "UN IAITH I BAWB" A GOMISIYNWYD GAN Y LLYWODRAETH EI HUN. ER MWYN SICRHAU FOD POB DISGYBL YN ENNILL Y SGIL ADDYSGOL HANFODOL O FEDRU CYFATHREBU A GWEITHIO'N GYMRAEG YN OGYSTAL A SAESNEG, DYLID SYMUD TUAG AT SICRHAU FOD POB DISGYBL YN DERBYN PETH O'R CWRICWLWM TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG.
DYLAI'R LLYWODRAETH

a) Gyhoeddi ei bod yn derbyn yr egwyddor a'r cyfeiriad newydd
b) Sefydlu gweithgor proffesiynol i gynghori a monitro'n flynyddol cynnydd tuag at wireddu'r egwyddor.

Cymerwn y bydd y llywodraeth yn derbyn yr egwyddor hon gan
(1) Fod pob tystiolaeth yn dangos mai methiant yw Cymraeg Ail Iaith, a niweidiol iawn i ddisgyblion yw parhau gyda threfn sy'n sicr o fethu.
(2) Fod y pwyllgor a sefydlwyd gan y llywodraeth ei hun i'w cynghori (adroddiad Sioned Davies "Un Iaith i Bawb") yn argymell hyn
(3) Nad oes dim yn adroddiad Donaldson i greu amheuaeth ynghylch gweithredu hyn - dyna paham yn wreiddiol y gohiriwyd gweithredu argymhellion Sioned Davies. I'r gwrthwyneb, mae Donaldson hefyd yn galw am newidiadau sylfaenol yn nhrefn Cymraeg Ail Iaith
(4) Fod y Prif Weinidog ei hun wedi datgan na all y drrefn bresennol o ran Cymraeg Ail Iaith barhau a bod angen symud i'r cyfeiriad hwn -

“Rydym hefyd wedi datgan yn glir bod rhaid i’r system gyfredol o addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg newid. Mae’r Gymraeg yn rhan gwerthfawr o’n hunaniaeth a’n diwylliant, ac mae’n bwysig bod holl ddisgyblion Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg – yn cael cefnogaeth i siarad y Gymraeg yn hyderus.”

Rhaid pwysleisio mai methiant addysgol yw trefn sy'n amddifadu'r mwyafrif o ddisgyblion Cymru o'r sgiliau hanfodol o fedru cyfathrebu a chyflawni eu gwaith yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Cydnabyddir gan adroddiad Sioned Davies, a bellach gan y llywodraeth ei hun, mai methiant yw'r holl drefn a chysyniad o "Cymraeg Ail Iaith". Galwn felly am newid cyfeiriad clir yn hytrach na cheisio "gwella" Cymraeg Ail Iaith gan fod yr holl gysyniad yn ffaeledig.

Fel y dywed adroddiad Sioned Davies

“Rydym yn gwbl argyhoeddedig bod rhaid gwneud newidiadau sylfaenol ... er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ac er mwyn datblygu gweithlu dwyieithog at y dyfodol, ond yn fwy na dim er mwyn rhoi cyfle go iawn i bob plentyn yng Nghymru ddod yn rhugl ac elwa ar yr holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.”

“Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith”

Tynnwn eich sylw yn arbennig at argymhelliad 15 Sioned Davies -

"gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Cydnabyddwn y cymer amser a strategaeth fanwl i wireddu'r ffordd newydd, ond galwn ar y llywodraeth i wneud yn awr y datganiad o ran egwyddor a sefydlu gweithgor i sicrhau cynnydd blynyddol.

2) FOD ADDYSG WLEIDYDDOL YN DOD YN FATER CRAIDD YN Y CWRICWLWM I BOB DISGYBL UWCHRADD

Hoffem weld hyn yn mynd law yn llaw gyda gostwng oed pleidleisio i 16 oed. Mae'r Llywodraeth yn aml yn ystod y misoedd diwethaf wedi  gosod trefn addysg Yr Alban yn batrwm i Gymru. Gall ymwybyddiaeth wleidyddol Albanwyr yn eu harddegau hefyd fod yn esiampl i Gymru. Ar hyn o bryd, hap a damwain yw darpariaeth addysg wleidyddol, ac wedi'i hynysu i gyfnodau dysgu ymylol. Mae Donaldson yn gosod fframwaith syniadol da ar gyfer addysg ar gyfer y ddemocratiaeth newydd yng Nghymru. Mae angen yn awr sefydlu trefn sy'n academaidd gadarn fel na bydd yn faes Sinderela. Dylai trefn newydd gynnwys yr elfennau canlynol -

* Trosglwyddo gwybodaeth berthnasol am weithrediad y drefn wleidyddol yn gyfansoddiadol ar raddfa cenedlaethol, lleol a rhyngwladol
* Dealltwriaeth o weithrediad y cyfryngau torfol a chymdeithasol
* Datblygu sgiliau ymholi, casglu tystiolaeth, pwyso a mesur a dod i gasgliadau, gweithio mewn tim.
* Defnyddio'r sgiliau hyn i astudio themau o bwys fel allfudo/mewnfudo, cyflogaeth/diweithdra, trefniadau cyhyrchu, materion amgyleddol a diwylliannol a gwahanol systemau gwleidyddol
* Dealltwriaeth o sut y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau o bwys o wythnos i wythnos, nid mewn etholiadau yn unig.
* Dysgu trwy weithredu e.e. trwy gyfrannu at ymgynghoriadau a thrafod materion fel Cynllun Datblygu Lleol

3) CASGLIAD - Yn fwriadol, rydym wedi ymgyfyngu i ddau faes sylfaenol gan lawn obeithio y bydd y llywodraeth yn cynnwys y ddau faes hyn fel datblygiadau o bwys yn ei gyhoeddiad ym Mehefin o sut y bwriada symud ymlaen o ran diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru.

Cymdeithas yr Iaith - 8.5.15