Adolygiad Coleg Cymraeg: angen hawl i addysg bellach Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi annog y grŵp sy'n adolygu gwaith y Coleg Cymraeg i weithredu'n gyflym er mwyn sicrhau bod yr holl bobl ifanc mewn addysg bellach yn cael yr hawl i addysg cyfrwng Cymraeg. 

Cyhoeddodd manylion yr adolygiad gan Yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw. Dywedodd maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau'r Cynulliad eleni y byddant yn"Ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sector Addysg Bellach i gefnogi cydweithredu rhwng colegau Addysg Bellach, a rhwng y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, wrth ddatblygu a darparu deunyddiau addysgu a dysgu drwy'r Gymraeg, a diogelu'i gyllid."  

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Rydyn ni'n croesawu'r newyddion bod yr adolygiad wedi ei sefydlu, allwn ni ddim fforddio oedi ar y gwaith adolygu gan y byddai ddim ond yn amddifadu rhagor o bobl ifanc o addysg cyfrwng Cymraeg mewn colegau addysg bellach. Yn wir, mae consensws gwleidyddol y dylid ehangu cyfrifoldebau'r Coleg i holl addysg ôl-16.  

"Mae'r Coleg yn sefydliad allweddol bwysig o ran gwireddu'r hawl i astudio'n Gymraeg ym maes addysg uwch - a gobeithiwn y gall hefyd wneud hynny'n gynyddol ym maes addysg bellach dros y blynyddoedd i ddod. Mewn cyfarfod diweddar gyda'r Prif Weinidog, buodd o'n gwbl glir i ni ei fod yn gwbl ymrwymedig i'r sefydliad ac am weld gwaith y Coleg yn parhau ac yn tyfu. Wrth gwrs, mae angen sicrhau cyllideb y coleg, ond mae angen mynd ymhellach na hynny, a datblygu mewn meysydd newydd fel addysg bellach. Dylai'r Coleg allu datblygu cyrsiau cyffrous newydd, ac agored i bawb, i sicrhau gweithlu addas i wasanaethu cyrff cyhoeddus Cymru."