Adroddiad ar y Gymraeg yn Sir Gâr - Cam sylweddol a chyfle

Wedi i Weithgor Cyngor Sir Gâr ar y Gymraeg ryddhau ei adroddiad heddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu nifer o'r argymhellion ond yn pwysleisio mai lle'r Cyngor nawr yw sicrhau fod yr argymhellion yma'n cael eu derbyn a'u gweithredu er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl Sir Gaerfyrddin.

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:

“O edrych ar yr argymhellion mae'n dod yn amlwg y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r adroddiad yn gosod y nod fod y Gymraeg yn dod yn iaith weinyddol y Cyngor Sir gydag amser. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi galw amdano, ac yn gweld ei bwysigrwydd, gan mai'r Cyngor Sir yw'r prif gyflogwr yn y sir, a byddai hefyd yn rhoi arweiniad clir ac yn dangos esiampl i gyrff, sefydliadau a busnesau eraill nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ar draws Cymru."

“Er mai Sir Gaerfyrddin welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad, mae cyfle drwy'r adroddiad yma i'r Cyngor ddangos eu bod yn cymryd y Gymraeg o ddifrif a'n gyfle iddynt ddangos y ffordd i weddill Cymru. O ystyried hyn rydyn ni'n disgwyl y byddwn yn gweld amserlen glir a phendant ar gyfer gweithredu'r argymhellion ac na fydd y Cyngor yn oedi."

“Gyda hyn mewn golwg mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi datgan ein bod am gynnal parti ar stondin y Cyngor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Haf. Rydyn ni'n hyderus y byddwn ni'n dathlu bod y Cyngor wedi derbyn yr argymhellion hyn ac wedi rhoi camau yn eu lle i'w gweithredu er mwyn i ni sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw yn Sir Gaerfyrddin.”

Gellir darllen yr adroddiad yn llawn yma