Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth

Heddlu AberHeddiw fe ddychwelodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith i Orsaf Heddlu Aberystwyth i ateb eu mechnïaeth. Arestiwyd y chwe aelod yn y Rali Genedlaethol bythefnos yn ôl fel rhan o'r brotest 'Rhybudd Olaf' oedd wedi ei drefnu i ddwyn sylw'r Llywodraeth i'r angen am Ddeddf Iaith Newydd

fyddai'n cynnwys y tair elfen angenrheidiol ganlynol: (i. )Statws Swyddogol
 (ii.) Comisiynydd Iaith
 a (iii.) Hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd - ym mhob sffêr – cyhoeddus a phreifat. Wrth ddychwelyd i ateb eu mechnïaeth heddiw roedd hi'n dra eironig fod yr Heddlu wedi dyfarnu “Rhybudd Swyddogol” i'r protestwyr am eu rhan mewn gweithred di-drais i dynnu sylw i ddifrifoldeb yr alwad am Fesur Iaith fyddai'n rhoi hawliau cyfartal i siaradwyr Cymraeg ym mhob sffêr. Penderfynodd aelodau'r Gymdeithas i basio eu “rhybudd” nhw ymlaen i'r Llywodraeth fel “Rhybudd Olaf” iddynt wylio fod y datblygiadau arfaethedig yn cynnwys digon o gîg i roi hawliau i siaradwyr Cymraeg ym mhob sffêr o'i bywydau; boed hynny mewn gwasanaethau cyhoeddus neu yn y sector breifat.