Angen “newid agwedd sylfaenol” yn sgil pryderon dros dŵf addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl ymgyrchydd iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am ddiffyg datblygiadau diweddar mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan alw am “newid agwedd sylfaenol” gan y Llywodraeth cyn iddynt gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’n glir o ddarllen adroddiad blynyddol Jeremy Miles ar Cymraeg 2050 nad ydyn ni wedi gweld y cynnydd sydd ei angen er mwyn creu twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac nad oes cynllun clir ar gyfer hynny.  Er bod cynnydd yn nifer yr athrawon oedd yn dysgu trwy’r Gymraeg mewn blynyddoedd diweddar, adfer ar ôl gostyngiad mae nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu dysgu trwy’r Gymraeg a dim ond cynnydd o rhyw 200 yn nifer yr athrawon sydd ers 2015/16. Dydy’r lefelau presennol ddim yn agos i’r raddfa fydd eu hangen er mwyn cyrraedd targedau’r Llywodraeth ei hun.

“Ateb y Llywodraeth yw cynnig cyfaswm o £800,000 o grant i’w rannu rhwng ysgolion Cymru ar gyfer cynlluniau hyfforddiant athrawon, gostwng lefel y graddau sydd eu hangen i ddysgu, ariannu ugain lle i athrawon cynradd sydd am newid i fod yn athrawon uwchradd, a chamau bachain tebyg. Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol fe wnaeth Jeremy Miles ddweud sawl gwaith mai ei ddymuniad e yw bod pobl un yn gadael yr ysgol yn medru’r Gymraeg yn hyderus. Addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o wneud hynny felly mae angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod digon o athrawon sy’n gallu dysgu trwy’r Gymraeg.”

Mae’r Gymdeithas wei galw am fuddsoddiad o £10 Miliwn y flwynydd am 5 mlynedd er mwyn ariannu cynlluniau hyfforddiant i’r gweithlu addysg ac ychwanegu blwyddyn at hyfforddiant athrawon ar gyfer dysgu’r Gymraeg.

Mae pryder gan y Gymdeithas hefyd am y gwymp yng nghanran plant ysgol Blwyddyn 1 sydd yn derbyn addysg Gymraeg. Disgynodd o 23.9% yn 2021/22 i 23.4% yn 2022/23. Er bod y cwymp yn gymharol fach dywed y Gymdeithas y dylai unrhyw gwymp wneud i’r Llywodraeth sylweddoli bod angen newid sylfaenol i’r system addysg.

Ychwnaegodd Toni Schiavone:

“Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o fynd ar ôl amwysder rhwng nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad ac Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, dylen nhw gymryd mwy o sylw o’r cwymp yn nifer y plant Blwyddyn 1 sy’n dilyn addysg Gymraeg a rhoi cynlluniau cadarn ar waith i dyfu addysg Gymraeg a sylweddoli bod angen newid agwedd sylfaenol er mwyn diwygio’r system addysg a rhoi addysg Gymraeg i bob plentyn.

“Mae cyfle yn y Ddeddf Addysg fydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar flwyddyn nesa. Mae papur gwyn y Ddeddf yn gosod nod bod 50% o blant yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050 - dydy amddifadu 50% o’n plant o’r Gymraeg ddim yn llawer o uchelgais. Beth am osod nod bod cant y cant o’n plant yn derbyn addysg Gymraeg?”