Arbenigwyr yn annog Gweinidogion i sefydlu Awdurdod Cyfathrebu i Gymru

Mae dwsinau o unigolion blaenllaw y byd cyfathrebu a darlledu wedi annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad panel arbenigol i sefydlu Awdurdod Darlledu cysgodol mewn llythyr agored a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun, 27 Tachwedd).

Mewn llythyr at Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, mae 37 o ffigyrau blaenllaw yn y byd darlledu a chyfathrebu wedi dadlau mai sefydlu’r corff  fyddai’r ‘cam unigol pwysicaf a mwyaf diriaethol’ i wireddu polisi’r Llywodraeth o ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru. 

Ymysg llofnodwyr y llythyr mae’r Athro Emeritws y Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth Tom O’Malley, cyn-olygydd Radio Wales Julie Barton, yr actores Sharon Morgan, golygydd teledu a chyn-swyddog yr undeb BECTU Madoc Roberts a’r cynhyrchydd annibynnol a chyn-swyddog Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr Meic Birtwistle.

Ers mis Rhagfyr 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru. 

Ym mis Awst eleni, cyhoeddwyd adroddiad ar y mater gan banel o arbenigwyr a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Wedi’i gadeirio gan y darlledwr Mel Doel a’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, argymhellodd y panel y dylid sefydlu Awdurdod Cyfathrebu a Darlledu i Gymru o fewn y 12 mis nesaf. 

Mae’r llythyr cyhoeddus a anfonwyd at Lywodraeth Cymru yn annog Gweinidogion i sefydlu’r Awdurdod cysgol, gan ddatgan:

“Mae’r Panel Arbenigol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Awdurdod o’r fath wedi gwneud achos manwl, yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd yn tynnu ar wybodaeth a dadansoddiadau gan ystod eang o randdeiliaid a chorff eang o ymchwil academaidd o ansawdd uchel. Rhaid canmol ansawdd a manylder y gwaith ac eglurder ac ymarferoldeb yr argymhellion pwyllog.

“… mae pryderon eang, sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad, am effaith y newidiadau hyn ar newyddiaduraeth er budd y cyhoedd, rhaglenni am Gymru a darpariaeth Gymraeg, yn enwedig S4C.

“Mae cefnogaeth gref i ddatganoli yng Nghymru gan iddo ddod â llywodraethiant yn nes at bobl y wlad. Mae cyfathrebu’n hanfodol i gyflwr y drafodaeth gyhoeddus, i’n diwylliant ac i dwf cymuned amrywiol a llewyrchus. Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol annibynnol i Gymru, yn dilyn y broses ofalus a phwyllog a argymhellir yn yr adroddiad, yn meithrin hyn ac yn gam arall gwerthfawr yn y broses ddatganoli barhaus.

“Sefydlu'r Awdurdod yw'r cam unigol pwysicaf a mwyaf diriaethol y gall eich llywodraeth ei gymryd i wireddu eich cred y 'dylai pwerau darlledu a chyfathrebu gael eu datganoli i’r Senedd [yng Nghymru]'.

“Hyderwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhelliad yr adroddiad i sefydlu’r Awdurdod cysgodol fel dull i ddod â pholisi cyfathrebu yn nes at y bobl yng Nghymru y mae’n effeithio ar eu bywydau, o ddydd i ddydd.”

Mae'r llythyr llawn i'w weld yma