Archif Newyddion

23/11/2005 - 11:00
Disgwylir i Owen John Thomas, yr Aelod Cynulliad a llefarydd Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw i gefnogi pedair aelod o Gymdeithas yr Iaith sydd o flaen eu gwell am gymryd rhan yn ymgyrch dor-cyfraith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd.
22/11/2005 - 12:12
Ar ddydd Mercher, y 23ain o Dachwedd bydd cyfres achosion llys aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio. Ar fore Mercher bydd pedair o ferched yn wynebu achos llys yng Nghaerdydd. Y pedair yw Lowri Larsen o Gaernarfon, Menna Machreth o Landdarog, Lois Barrar o Nelson a Gwenno Teifi o Sir Gaerfyrddin.
17/11/2005 - 16:18
Neges gan Steffan o'r LlysRwyf yn hynod falch fod y Llys wedi fy nghael yn ddi-euog. Rwyn aelod o Gymdeithas yr Iaith sy’n fudiad di-drais a phrotest ddi-drais a gynhaliwyd yn stiwdios Radio Carmarthenshire nôl yn 2004. Buom yn protestio pryd hynny am fod Radio Carmarthenshire yn darlledu yn Sir Gâr bron yn gyfangwbl Saesneg ac yn dangos amharch llwyr at natur ieithyddol y Sir.
16/11/2005 - 18:34
Wynebodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Steffan Cravos - achos Llys yn Hwlffordd heddiw, wedi ei gyhuddo o niwed corfforol, yn dilyn protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn stiwdio Radio Carmarthenshire dros flwyddyn yn ôl. Mae Steffan Cravos yn gwadu'r cyhuddiad.
15/11/2005 - 11:28
Am 7.30 o’r gloch bore heddiw, dydd Mawrth y 15fed o Dachwedd mae dwy aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi eu harestio am beintio slogannau ar waliaub adeilad llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Dyma’r chweched weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol i dynnu’r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
11/11/2005 - 11:43
Am 8.30 o'r gloch bore dydd Gwener, yr 11eg o Dachwedd arestiwyd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gwyn Sion Ifan o'r Bala. Dyma'r bumed weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol sy'n targedu Swyddfa'r Llywodraeth ym Mharc Cathays i dynnu'r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
07/11/2005 - 14:12
Ar y diwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod cynnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ddyfodol ysgolion bychain (Dydd Mawrth 8/11/05), bydd Cymdeithas yr Iaith ac ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol yn cynnal 2 Wylnos.
03/11/2005 - 11:41
Mae aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn wynebu achos llys am iddi wrthod llofnodi ffurflen uniaith Saesneg. Dydd Llun diwethaf cafodd Mair Stuart o'r Barri ei harestio am beintio slogan yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd. Bwriad yr heddlu i ddechrau oedd rhoi rhybudd swyddogol iddi a'i rhyddhau.
02/11/2005 - 20:00
Bu cynrychiolwr o gymunedau o wahanol rannau o Gymru yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw i fynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys er mwyn sicrhau eu dyfodol.
31/10/2005 - 11:13
Heddiw, Mair Stuart oedd yr unfed aelod ar ddeg mewn cyfres o weithredwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i baentio sloganau ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yn galw am Ddeddf Iaith newydd. Targedwyd adeilad llywodraeth y Cynulliad bron yn wythnosol ers diwedd Medi.