Arestio saith ym Mryste

 crestceredigion.gif Cafodd saith aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio ym Mhencadlys ‘Orange’ ym Mryste brynhawn ddoe tra'n protestio am Ddeddf Iaith Newydd. Digwyddodd hyn ar ôl iddynt feddiannu rhan o’r pencadlys am dros tair awr a hanner a pheintio sloganau ar y wal.

Roedd y saith ymysg torf o tua ugain a oedd wedi mynd i bencadlys y cwmni ffôn ‘Orange’ i brotestio am nad yw'r cwmni yn cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Y saith a arestiwyd oedd Rhys Llwyd (Cadeirydd yr Ymgyrch Deddf Iaith Newydd), Lowri Larsen, Elenna Mai, Lois Barrar, Osian Rhys, Nia Meleri a Ceri Owen. Cafodd yr aelodau eu dwyn i ddwy orsaf heddlu sef South Mead - a Broadbury Road. Maent wedi ei gadael allan ar fechniaeth tan yr 2il o Orffenaf pan disgwylir iddynt adrodd yn ol i'r swyddfeydd heddlu ym Mryste.Roedd y brotest yn ddechre cyfnod o weithredu tor-cyfraith gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd. Mae'r Gymdeithas yn galw am ddeddf a fydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd. Cyhoeddodd y Gymdeithas y bydd nifer fwy o weithredoedd tebyg yn digwdd dros y misoedd nesaf.Y stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan BBC BrysteStori oddi ar wefan y Daily Post