Arolwg: Cyhoedd am weld mwy yn cael ei wneud dros y Gymraeg

Mae mudiad iaith wedi croesawu ystadegau sy'n dangos bod mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau gweld mwy o ymdrech gan y Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg. 

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru drwy gyfweld ag 11,000 o oedolion, mae 86% yn teimlo bod yr iaith yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi (97% o siaradwyr Cymraeg ac 84% o bobl ddi-Gymraeg), gyda 67% yn dweud bod angen i fwy o ymdrech gael ei gwneud i gefnogi'r Gymraeg. Dywedodd 62% o bobl ddi-gymraeg yr hoffent allu siarad yr iaith.  

Meddai Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith:  

"Mae'n newyddion gwych bod cymaint o gefnogaeth i'r iaith. Mae yna neges glir i bawb mewn awdurdod yn y canlyniadau hyn – byddwch yn ddewr a phenderfynol wrth weithredu dros y Gymraeg. Rydyn ni fel mudiad yn galw am addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, hawliau iaith yn yr holl sector preifat, ac ehangu a normaleiddio darlledu Cymraeg drwy ddatganoli darlledu i Gymru – mae'n bryd i'r gwleidyddion sylweddoli bod y cyhoedd yn cefnogi hynny ac yn ysu am eu gweld yn gweithredu Mae hefyd yn amlwg bod llawer o oedolion am ddysgu'r iaith, felly mae angen llawer mwy o fuddsoddiad yn y maes yna.  

"Yn lle gwanhau hawliau iaith drwy eu cynlluniau i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, dylai'r Llywodraeth sylweddoli bod y cyhoedd am gael hawliau cryfach i ddefnyddio'r iaith. Dydy pobl Cymru ddim eisiau Deddf Iaith wannach, maen nhw am weld hawliau iaith yn yr holl sector preifat."    

Wrth ymateb i'r canfyddiad mai lleiafrif o'r bobl sy'n meddwl y bydd y Gymraeg yn gryfach o fewn 10 mlynedd, ychwanegodd Tamsin Davies: 

"Mae'n glir bod y Llywodraeth eto i argyhoeddi'r cyhoedd eu bod yn gwneud digon i gryfhau'r iaith. Mae gen i ffydd y bydd yr iaith yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf os bydd gweithredoedd gwleidyddion cystal â chefnogaeth y cyhoedd i'r iaith." 

[Manylion yr arolwg]