Bandiau ifanc yn lansio Gigs Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gig yn Llanelli ar ddydd Gwener 11eg o Ebrill, gyda pedwar band ifanc o Sir Gâr yn cymryd rhan, er mwyn lansio un o'r lleoliadau y byddan nhw'n defnyddio ar gyfer gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y Gymdeithas yn cynnal gigs mewn tri lleoliad yn ystod wythnos yr Eisteddfod sef y Thomas Arms, Clwb Rygbi Ffwrnes a'r Kilkenny Cat, lle bydd nifer o fandiau ac artisiaid gorau Cymru yn rhan o ddigwyddiadau'r wythnos.

Un o uchafbwyntiau'r wythnos fydd gig ar nos Wener olaf yr Eisteddfod, a fydd yn barhad o barti mawr bydd Cymdeithas yr Iaith yn ei drefnu ar faes yr Eisteddfod. Meddai Llewelyn Hopwood o'r band Bromas a fydd yn chwarae yn y gig lansio:

“Bydd pob un o'r bandiau sy'n chwarae yn y gig lansio hefyd yn chwarae mewn parti mawr fydd gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod – a fydd yn mynd ymlaen i gig yn y nos. Y gobaith yn y parti yw dathlu fod y Cyngor Sir wedi cyhoeddi strategaeth i adfer y Gymraeg yn y sir. Mae gigs a digwyddiadau cymdeithasol reit ynghanol trefi fel Llanelli yn rhan bwysig o hynny a dyna pam mae mor bwysig i ni fod yn rhan o'r parti ar y maes a'r gig yn y nos – a'r gig yma nos Wener.”

Ychwanegodd Rhys Dafis o'r band Banditos:

“Mae'n grêt cael yr Eisteddfod mor agos at adref. Bydd wythnos brysur gyda ni, fel Cymdeithas yr Iaith, ar faes yr Eisteddfod ond mae'n bwysig i ni hefyd i chwarae mewn gigs ynghanol y dref. Mae'n dda gallu chwarae mewn lleoliadau fel y Clwb Rygbi yn Ffwrnes a thafarndai lleol. Gyda thri lleoliad gwahanol yn y dref ac amrywiaeth o fandiau drwy'r wythnos, dim ond blas o'r hyn sydd i ddod byddwn ni'n ei gynnig yn y gig lansio nos Wener.”