CBAC: Collfarnu penodi Prif Weithredwr di-Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi collfarnu penderfyniad CBAC i benodi Prif Weithredwr di-Gymraeg i olynu Gareth Pierce.   

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'r penodiad yn destun pryder mawr ac mi ddylai fod yn bryder mawr i'n Llywodraeth ni hefyd. Mae'n dilyn patrwm ymysg sefydliadau addysg, fel Cymwysterau Cymru, o benodi pobl di-Gymraeg fel penaethiaid.  Os ydyn ni am gyrraedd y filiwn o siaradwyr, dyw dilyn y patrwm hwn ddim yn mynd i weithio. Wedi'r penodiad hwn, mae her o gyrraedd y filiwn hyd yn oed yn fwy."  

"Y prif angen yw fod cyrff fel CBAC yn parhau, neu'n datblygu, i ddefnyddio'r Gymraeg yn brif gyfrwng eu gwaith a'u gweinyddiaeth fewnol. Mae'n hanfodol felly bod pennaeth CBAC ac uwch swyddogion sefydliadau addysg eraill yn medru'r Gymraeg. I oresgyn y broblem mae bwrdd y corff wedi'i chreu, dylai fod amserlen bendant yn ei lle i'r Prif Weithredwr newydd ddysgu Cymraeg gyda meini prawf clir. Os yw'r Prif Weithredwr yn ddi-gymraeg am gyfnod, mae'n rhaid i'r corff roi mwy o bwyslais ar wneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer uwch swyddi eraill. Mae hefyd angen i'r corff nawr fabwysiadu polisi iaith mewnol ac allanol gadarn."