Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

Cychwyn ymgyrch dros ddefnydd y Gymraeg yn y Cynulliad

Mae ymgyrchwyr iaith yn lansio ymgyrch arlein heddiw i gryfhau presenoldeb y Gymraeg yn y Cynulliad (Dydd Gwener, Mehefin 3).

Fe fydd ymgyrch grwp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn canolbwyntio ar sichrau bod cofnod llawn o drafodion y Cynulliad ar gael yn y Gymraeg. Bydd y grwp hefyd yn pwyso am gynnydd cyffredinol yn nefnydd y Gymraeg yn y Cynulliad.

Nid yw'r Cofnod wedi bod ar gael yn ddwyieithog ers Medi 2010, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrthi'n ymchwilio i'r mater, yn dilyn cwynion gan y cyhoedd.

Wrth lansio'r ymgyrch, meddai Catrin Dafydd, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae pobl Cymru wedi dangos ffydd yn y Cynulliad wrth bleideisio am ragor o bwerau. Oherwydd hyn, mae mwy o gyfrifoldeb nag erioed ar ysgwyddau gwleidyddion ein corff democrataidd i ddangos a ydynt o ddifrif am brif-ffrydio'r Gymraeg i bob agwedd ar fywyd y Cynulliad ai peidio. Byddai gwyrdroi penderfyniad y trydydd Cynulliad a sicrhau fod y Cofnod llawn ar gael yn y Gymraeg yn dangos gweledigaeth ac yn symbol clir o naratif Cynulliad Cymru ar gyfer y dyfodol. Pe na baent yn gwyrdroi'r penderfyniad, byddent yn tramgwyddo hawliau iaith pobl Cymru ar lefel gwbl sylfaenol. Byddai parhau â'r sefyllfa fel ag y mae yn gosod cynsail peryglus iawn ar gyfer y dyfodol, ac yn gwbl groes i'r datganiad fod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru yn dilyn pasio Mesur y Gymraeg, 2011."

Mae'r mudiad iaith wedi llythyru aelodau'r Comisiwn i sichrau y bydd Cofnod gwbl ddwyiethiog o drafodion yn y Cynulliad ar gael yn y dyfodol agos.