Colledion Ariannol Mudiad Meithrin – ymateb Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion am golledion ariannol y Mudiad Meithrin.  

Dywedodd cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Toni Schiavone: 

"Mae'r heriau ariannol y mudiad yn dangos bod angen i'r Llywodraeth flaenoriaethu'n llawer iawn mwy darpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Yn sicr, mae'n faes allweddol os yw'r Llywodraeth o ddifrif am greu miliwn o siaradwyr. Yn ddiweddar, cyflwynon ni ddeiseb i'r Llywodraeth am yr angen i gynyddu'n sylweddol cyllideb Cymraeg i Blant fel bod trosglwyddo'r iaith yn y teulu yn dod yn flaenoriaeth. Mae rhaglenni i gynyddu defnydd yr iaith ar yr aelwyd yn hanfodol bwysig."