Croesawu pleidlais tai Cernyw - enghraifft i Gymru?

Mae caredigion y Gymraeg wedi croesawu pleidlais yng Nghernyw o blaid cynnig i glustnodi tai newydd i bobl leol yn unig, gan ddweud bod y polisi yn enghraifft i Gymru o ran arloesi er lles cymunedau.

Enillodd y cynnig yn St Ives o dros 80% o'r bleidlais, oedd â'r nod o atal adeiladu rhagor o ail gartrefi – ail gartrefi yw tua chwarter stoc tai presennol yr ardal. Mae ymchwil yn dangos mai un o'r ffactorau sy'n arwain at allfudo o lawer o ardaloedd yng Nghymru yw prisiau tai sy'n anfforddiadwy.

Dywedodd Tamsin Davies, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
"Mae hyn yn newyddion da iawn i bobl leol yn yr ardal yna yng Nghernyw. Mae gwersi i ni yng Nghymru i'w dysgu o'r refferendwm yma. Yn amlwg, allwn ni ddim copïo’r union un polisi ym mhob man, ond yn sicr dyma enghraifft o'r math o beth y gellid ei wneud mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru. Dylai fod yn destun ysbrydoliaeth i ni. Gobeithio y bydd ein cynghorau yn edrych ar ddefnyddio'r pwerau sydd gyda nhw i atal yr allfudiad, patrwm sydd mor niweidiol i'r Gymraeg."