Croesawu sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru fel “cam hanesyddol” tuag at ddatganoli darlledu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru, gan ei ddisgrifio fel “cam hanesyddol” tuag at ddatganoli grymoedd darlledu i Senedd Cymru.

Dywedodd Mirain Owen, Is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth y bydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru. Wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau sylfaenol sy’n wynebu’r maes yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth darlledu Cymraeg, mae’n hanfodol bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru ar ran pobl Cymru. 

“Dydy’r cynlluniau ddim yn berffaith ac mae gwaith i’w wneud ond mae cyhoeddiad heddiw yn gam hanesyddol sy’n gosod Cymru ar y ffordd tuag at reoli ein darlledu ein hunain. Edrychwn ymlaen at ddatblygiadau pellach.”