'Cyfle i wella'r Mesur Iaith', AS yn cytuno ag ymgyrchwyr

Jonathan Edwards rali.jpgMae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards wedi argymell cryfhau cynlluniau Llywodraeth Cymru am Fesur Iaith newydd mewn araith i ymgyrchwyr iaith.Mae'r sylwadau yn dod yn sgil pryderon arbenigwyr ieithyddol, cyfreithwyr, a'r Llywydd Dafydd Elis-Thomas am y ddeddfwriaeth arfaethedig. Mae'r Mesur Iaith wedi derbyn beirniadaeth lem oddi wrth sawl cyfreithiwr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.Mewn llythyr agored, fe ddywedodd 13 cyfreithiwr: "Yn ein barn ni, i raddau'n unig y mae'r Mesur hwn yn cyflawni'r amcanion a amlinellwyd yng nghytundeb Cymru'n Un. Ofnwn fod y Mesur yn greadur llai effeithiol nag y gallasai fod i ddylanwadu'n gadarnhaol ar yr hinsawdd ieithyddol yng Nghymru."Cynhaliwyd ymgyrchwyr y rali i brotestio am ddiffyg presenoldeb hawliau a statws swyddogol yn y Mesur a hefyd pryderon ynglyn â dyfodol S4C.

Yn siarad o flaen rali Cymdeithas yr Iaith tu allan i'r Cynulliad, dywedodd Jonathan Edwards AS:"Hoffwn neud yn hollol glir fy mod i... yn cydnabod llwyddiant Plaid Cymru wrth sicrhau bod sofraniaeth wleidyddol dros ein hiaith yn cael ei drosglwyddo i'n Cynulliad cenedlaethol ni."Hoffwn felly talu teyrnged i Alun Ffred Jones, Rhodri Glyn Thomas a Hywel Williams am ddyfalbarhau yn eu brwydrau anodd a rhwystredig i sicrhau bod hynny'n digwydd. Hefyd i'r Gymdeithas am chwarae rôl adeiladol iawn adeg y broses LCO am lobio yn effeithiol a danseiliodd y grymoedd adweithiol a oedd yn ceisio cadw p?er dros yr iaith Gymraeg yn San Steffan....""Rwy'n croesawu yn fawr sylwadau'r Gweinidog ei fod yn awyddus i groesawu awgrymiadau i wella'r mesur yn ystod y broses scriwtaneiddio yma. Ac yn yr ysbryd hynny hoffwn argymell tri maes i'w hystyried: Yn gyntaf, credaf fod angen cymal mwy clir a llai amwys yn y mesur yngl?n â sefydlu statws swyddogol i'r iaith Gymraeg. Yn ail, rwy'n credu bod angen ystyried ymhellach y drefn o benodi'r Comisiynydd a sicrhau na all annibyniaeth y comisiynydd cael ei gyfaddawdu. Ac yn drydydd mae angen ystyried sut y gellir gwneud mwy i rymuso unigolion yn y broses o roi hawliau..."Fe ddywedodd Bethan Williams, Llefarydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae gyda ni ddewis fel gwlad - ydy'r iaith Gymraeg yn mynd i fyw fel iaith i bawb neu ydyn ni'n mynd i adael iddi farw? Mae yna sawl bygythiad i'r iaith Gymraeg - mae'r Cynulliad eisiau israddio ei ddarpariaeth, ac mae yna hefyd bryderon yngl?n â dyfodol S4C.""Rydyn ni wedi clywed sawl Aelod Cynulliad, o bob plaid wleidyddol, yn datgan bod angen gwella'r mesur drafft. Mae'n galonogol clywed lleisiau Plaid Cymru yn derbyn bod yna ddiffygion. Rydyn ni, ynghyd ag eraill, yn barod i chwarae rôl ymarferol ac adeiladol i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg."