Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio bod arolwg ar y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn “gadarnhad pellach” o’u methiant

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder dros ganfyddiadau adroddiad blynyddol interim Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn, gan ddweud eu bod yn “gadarnhad pellach” o fethiant ysgolion cyfrwng Saesneg i greu siaradwyr Cymraeg hyderus.

Ategodd y mudiad ei galwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn erbyn 2050.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'n amlwg erbyn hyn bod y gyfundrefn addysg cyfrwng Saesneg yn methu sicrhau'r cyfle i’n pobl ifanc fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ac mae sylwadau'r Prif Arolygydd yn gadarnhad pellach o hyn. Yr ateb yw symud pob ysgol yn y wlad i ddysgu cyfran o'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynyddu hynny dros amser fel bod pob plentyn yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn hyderus yn eu Cymraeg. Mae cyfle i sicrhau bod hyn yn digwydd yn y Ddeddf Addysg Gymraeg sydd ar y gweill gan y Llywodraeth."