Cynghorau yn ceisio atal pobl fregus rhag defnyddio'r Gymraeg

Herio'r Safonau gerbron Tribiwnlys yn 'sarhaus a gwastraffus' medd y mudiad 

Mae mudiad iaith wedi beirniadu penderfyniad dau gyngor sir i apelio yn erbyn dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg fel rhai 'anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus'. 

Mae dau gyngor – Sir Benfro a Chaerffili – wedi herio cyfanswm o 8 dyletswydd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Er 1993, mae pob corff cyhoeddus wedi bod dan ddyletswydd i weithio tuag at 'drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal'. Yn 2011, newidiodd y gyfraith i sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol Cymru a sefydlu'r egwyddor y dylai cyrff beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.  

Mae Cyngor Sir Benfro wedi apelio yn erbyn pedair dyletswydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd gydag unigolion os ydynt yn ymwneud â llesiant, er enghraifft wrth gynnal cyfarfod gyda phlentyn neu bobl hyn sydd ddim ond yn gallu siarad Cymraeg. Mae Cyngor Sir Caerffili yn ceisio herio dyletswyddau iaith, gan gynnwys yr hawl i bobl gyfathrebu yn Gymraeg yn nerbynfeydd yr awdurdod lleol. Yn 2012, roedd Cyngor Caerffili wedi ymrwymo y "bydd modd i unrhyw gwsmer sy'n dymuno ymwneud â'r Cyngor yn Gymraeg heb fwy o oedi nag sydd rhaid wrtho" wrth i bobl fynd i dderbynfeydd y sir.  

Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith:  

Bydd yr hawliau hyn sy'n ymwneud â llesiant yn effeithio ar bobl fregus – plant, pobl hŷn phobl mewn sefyllfa o wendid. Mae'n anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus i'r Cyngor fynd drwy broses er mwyn gwadu hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod y Safonau ar gynghorau gyda buddiannau pobl mewn golwg, felly pameu bod mor benderfynol o herio hyn eto?

"Dydyn ni ddim yn mynd i adael i rai o'n pobl fwyaf bregus gael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn pan fod ei angen fwyaf arnyntBeth am i'r cynghorau roi amser ac ymdrech i gynyddu'i ddarpariaeth Gymraeg a hyfforddi staff a chefnogi staff i allu gweithio'n Gymraeg, yn lle gwastraffu arian ac amser ar gyngor cyfreithiol er mwyn ceisio gwadu hawliau sylfaenol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg?"

"Cafodd pob corff cyhoeddus dros ugain mlynedd weithio 'tuag at drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal', ond maen nhw nawr yn honni ei fod yn rhy anodd i wireddu euhaddewid. Wedi dau ddegawd esgeuluso eu dyletswyddau cyfreithiol, mae'n gwbl amlwg bod eu heriau i'r hawliau cyfreithiol newydd yn gwbl afresymol."  
 
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cymdeithas yr Iaith yn ystyried mynd ati i restru fel trydydd parti er mwyn gwrthwynebu'r apêl drwy'r Tribiwnlys.