Cyngor Ceredigion - ymgynghorwch am ddyfodol safle ysgol Dyffryn Teifi

Wrth ymateb i'r ffaith fod Cyngor Ceredigion wedi rhoi safle ysgol Dyffryn Teifi i'w werthu mewn ocsiwn mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gyngor Ceredigion i drafod gyda'r gymuned leol.

Dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dtfed Cymdeithas yr Iaith:
“Bydd Cabinet Cyngor Ceredigion yn cwrdd ar y 6ed o Fedi, rydyn ni'n galw arnyn nhw yn y cyfarfod hynny i dynnu'r safle oddi ar y farchnad a thrafod yn agored gyda phobl leol. Mae syniadau wedi eu codi gan unigolion ar y cyfryngau cymdeithasol yn barod, beth am i'r Cyngor wrando a thrafod?”

Mae'r Gymdeithas hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo Dyffryn Teifi fel Ardal Twf Lleol.
Ychwanegodd Bethan Williams
“Mae Dyffryn Teifi yn Ardal Twf ond rydyn ni wedi gweld banciau'n cau, mae bygythiad i lyfrgell y dref a'r gymuned sydd bellach yng ngofal y pwll nofio. Beth am i Carwyn Jones ddefnyddio adnoddau'r Llywodraeth ac adnoddau Ewropeaidd er mwyn buddsoddi yn Nyffryn Teifi?”