DEDDF EIDDO I GYMRU - Dim Llai!

Wythnos cyn rali fawr 'Nid yw Cymru ar Werth' yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 8 Mai, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri a pheintio sloganau yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.

Er bod y Cytundeb Cydweithio yn ymrwymo i gyflwyno Deddf Eiddo a Rhenti Teg yn nhymor y senedd presennol, pryder Cymdeithas yr Iaith yw na fydd y ddeddf yn mynd at wraidd y broblem tai - sef y farchnad agored, sy'n trin cartrefi fel asedau i wneud elw.

Yn ôl Osian Jones ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith mae'r gweithredu yn ffordd arall o gynyddu'r pwysau ar y Llywodraeth:

"Credwn fod yn rhaid i ddifrifoldeb ein gweithredu ddechrau cynyddu i adlewyrchu difrifoldeb y broblem - problem teuluoedd sy’n methu cael cartrefi a phroblem chwalfa ein cymunedau Cymraeg. Yn yr un modd, dylai ymateb y Llywodraeth gyfleu maint y broblem tai trwy weithredu radical i reoli’r farchnad.
Galwn felly i bobl o gymunedau ar draws Cymru i ddod i Gaernarfon i bwyso am Ddeddf Eiddo gyflawn.”

I gyd-fynd â’r weithred mae’r Gymdeithas wedi rhyddhau llythyr agored yn galw am sicrwydd y bydd rheoli’r farchnad rydd yn rhan o’r Ddeddf Eiddo arfaethedig, ac am amserlen ar gyfer rhyddhau Papur Gwyrdd y ddeddf.

Dywed y llythyr:

“Er mor bwysig yw rheoli’r farchnad rhent, ni ellir mynd at wraidd y problemau heb reoleiddio’r farchnad tai yn ei chyfanrwydd.
Heb hynny, ni ellid gwaredu’r anghyfiawnderau ac anghyfartaledd ofnadwy a welir bob dydd ar lawr gwlad. Gofynnwn felly i chi ddatgan y byddwch yn cyflwyno deddf, yn y tymor Senedd hwn, fydd yn cynnwys mesurau i reoli’r farchnad tai a hefyd am amserlen cyhoeddi’r papur gwyrdd.”

Ychwanegodd Osian Jones:
"Yn dilyn ymgyrchu a lobio torfol mae'r Llywodraeth wedi rhoi grymoedd newydd i Awdurdodau Lleol gyfyngu ar ormodedd ail gartrefi a llety gwyliau. Mae angen pwysau nawr i sicrhau camau radical i ddarparu cartrefi i bobl leol yn eu cymunedau a sicrhau parhad ein cymunedau Cymraeg.
“Os daw torf enfawr i'r rali ar y maes yng Nghaernarfon ddydd Llun yr 8fed o Fai, bydd yn rhoi pwysau mawr ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn i flaenoriaethu pobl leol yn y farchnad dai"

Mae'r llythyr at Julie James i'w weld yma