Diffyg gwersi nofio yn 'niweidio'r Gymraeg'

Mae bron i hanner o gynghorau Cymru yn methu darparu gwersi nofio yn y Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd ble mae nifer fawr o blant yn dysgu'r iaith, yn ôl ffigyrau a gasglwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.Mae naw awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu gwersi nofio trwy'r Saesneg yn unig, gan gynnwys Cyngor Sir Caerdydd, gyda chwe chyngor heb gofnodi'r data ynglyn â pha iaith cynhelir y gwersi.Yn Sir Gâr, cyfaddefodd yr awdurdod lleol fod llai nag un y cant o wersi nofio - 10 gwers allan o 6,200 - oedd wedi ei ddarparu yn y Gymraeg ym mhwll nofio Rhydaman llynedd, er bod 62% o boblogaeth y dref a 50% o'r Sir yn siarad Cymraeg. Ym Mhowys, dysgwyd llai na dau y cant o'r gwersi yn y Gymraeg, mewn sir lle mae dros ugain y cant yn siarad yr iaith. Mae un plentyn yn bob pedwar yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y sefyllfa yn un 'hurt' ac yn dangos yn glir pam bod angen hawliau cyfreithiol i wasanaethau yn Gymraeg.

Fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr fod cyn lleied o gyfleoedd i blant ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i'r ysgol. Mae darpariaeth yn wael iawn mewn siroedd lle mae llawer o iawn o blant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ôl yr arbenigwyr, mae cyfleoedd i blant weld a chlywed y Gymraeg tu allan i'r ysgol yn hollbwysig er mwyn cynyddu defnydd o'r iaith. Felly, mae peidio â chynnig gwersi nofio yn niweidio'r Gymraeg. Y neges rydym ni'n rhoi i'n plant unwaith eto yw mai iaith y dosbarth yn unig yw'r Gymraeg."Ond mae methiant Bwrdd yr Iaith a pholisi Llywodraeth Cymru yn dangos bod strategaethau yn unig ddim yn gallu cynyddu defnydd y Gymraeg. Mae angen i bobl, gan gynnwys plant, i ymhyfrydu yn yr hyder sy'n deillio o hawliau - heb hawliau mae disgwyliadau am wasanaeth Cymraeg yn isel iawn oherwydd mae cymdeithas ehangach yn dysgu i'n plant mae iaith ymylol yw'r Gymraeg ac mae Saesneg yw prif iaith Cymru. Mae'r ffigyrau am bwll nofio Rhydaman yn syndod gan fod cymaint o drigolion yr ardal yn gallu siarad Cymraeg. Mae'r holl sefyllfa yn hollol hurt."Yn ol swyddogion y Llywodraeth, ni fyddai'n addas gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol trwy'r ddeddf newydd parthed gweithgareddau allgyrsiol i blant. Teg yw gofyn felly pa werth sydd i deddfwriaeth arfaethedig y Llywodraeth os nad yw'n cynnig sicrwydd gyda gweithgaredd mor sylfaenol i blant."