Dim ond un cyngor sy'n cynllunio addysg er mwyn cyrraedd y miliwn – ymchwil

Angen diddymu 'mesur y galw' a 'chynllunio ar gyfer addysg Gymraeg i bawb' medd Cymdeithas  

Dim ond un cyngor sir yng Nghymru sydd gyda thargedau hir dymor i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl ymchwil gan fudiad iaith a gyhoeddwyd fel rhan o seminar heddiw.   

Mewn ymateb i gais am wybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith at holl awdurdodau lleol y wlad, o'r rhai a ymatebodd, dim ond Cyngor Conwy oedd wedi mabwysiadu targedau ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg tu hwnt i'r flwyddyn 2022. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ddyletswydd i bob cyngor lunio cynllun ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, sef Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ar gyfer cyfnod o 3 mlynedd, ac mae rhai yn cynnwys targedau addysg yn eu strategaethau hybu'r Gymraeg sy'n weithredol tan 2022.   

Daw'r ymchwil wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i sefydlu bwrdd annibynnol i gynghori ar newidiadau i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n sail i'r cynlluniau hynny dros y flwyddyn nesa. Daeth yr ymrwymiadau hynny yn sgil adolygiad brys o'r gyfundrefn gan y cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts a gynhaliwyd y llynedd.   

Wrth ymateb i'r newyddion bod diffyg cynllunio hir dymor gan gynghorau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith 

"Mae'n gwbl amlwg nad yw'r Cynlluniau Strategol mewn Addysg yn addas at eu diben. Dydyn nhw heb gyflawni ar y targedau cenedlaethol sydd wedi eu gosod, ac mae'r ymchwil rydyn ni wedi ei wneud yn amlygu'r ffaith nad ydyn nhw'n sicrhau bod cynllunio tymor hir yn digwydd ar lefel leol. Mae ymatebion y cynghorau'n ddiddorol achos ei fod yn amlwg bod y rhan fwyaf o siroedd heb ymateb i'r her o gyrraedd y miliwn o siaradwyr. Yn wir, mae rhai siroedd, megis Wrecsam, yn defnyddio 'ymateb i'r galw' fel esgus i beidio â gwneud mwy.  

"O ganlyniad, mae gyda ni system, sydd, yn gyffredinol, yn atal normaleiddio addysg Gymraeg. Mae angen troi'r system ar ei ben a chynllunio'n rhagweithiol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cynlluniau'r Llywodraeth yn awgrymu bydd rhaid aros nes 2170 i sicrhau hynny; mae angen gosod targed llawer yn gynharach. Felly mae angen newid y sail ddeddfwriaethol ac mae angen trafodaeth ynglŷn â hynny. Yn lle chwarae gyda Bil y Gymraeg a fyddai'n gwanhau ein hawliau, dylai'r Llywodraeth fod yn canolbwyntio ei ymdrechion deddfu ar newid y ddeddfwriaeth addysg Gymraeg bresennol."  

Bydd Aled Roberts, awdur yr adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Prif Weithredwr CBAC Gareth Pierce ac Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC yn siarad mewn seminar addysg a gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith heddiw (ddydd Gwener, 4ydd Mai) yn Aberystwyth.  

Crynodeb o'r ymchwil a gasglwyd gan Gymdeithas yr Iaith:

Awdurdod 

Pa dargedau addysg Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd 2025, 2030, 2035 a 2040 ydy'r awdurdod yn ystyried sydd angen eu cyrraedd er mwyn i'r sir gyfrannu'n llawn at sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050? 

Abertawe 

- 

Blaenau Gwent 

- 

 

Bro Morgannwg 

Dim targedau – cyfeirio at Gynllun strategol y Gymraeg mewn Addysg sy'n dod i ben yn 2020 

Caerdydd 

Dim targedau na chamau gweithredu tu hwnt i 2022, ond rhywfaint o gydnabyddiaeth ac ymrwymiad. Mae Cynllun Strategol newydd y Gymraeg mewn Addysg "yn symud y Cyngor ymlaen, o fodloni'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn unig, tuag at osod targedau i gynyddu'r niferoedd... fel rhan o gyflawni Cymraeg 2050." 

Caerffili 

Dim targedau

 

Casnewydd 

Dim targedau tu hwnt i 2022 

"mae'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn addysg yn weithredol am dair blynedd ac mae'r Cynllun Iaith Gymraeg yn weithredol am bum mlynedd ac rydym yn cynllunio lleoedd ysgolion yn seiliedig ar hyn. Yn gorfforaethol, mae ein Strategaeth lles drafft yn cynnwys rhai targedau lefel uchaf ar gyfer y deng mlynedd nesaf, er nad yw siaradwyr Cymraeg yn un o’r targedau ar hyn o bryd." 

Castell Nedd Port Talbot 

Dim targedau tu hwnt i 2022 

Ceredigion 

Dim cynllun tu hwnt i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg sy'n dod i ben yn 2020 

Conwy 

Ie, mae gyda nhw dargedau fesul pum mlynedd hyd at 2040: 

2020 - 26.5%; 2025 - 40.6%; 2030 - 54.7%; 2035 - 68.8%; 2040 - 82.8% 

Gwynedd 

Dim targedau tu hwnt i 2020 eu hunain, ond yn cefnogi targedau a nodir yng ngwaith ymchwil y Gymdeithas 

Merthyr Tudful 

Dim targedau 

Pen y Bont ar Ogwr 

- 

 

Powys 

Dim targedau tu hwnt i 2020: 

"Mae blaenoriaethau’r Cyngor Sir ar gyfer datblygu ac ehangu mynediad i addysg Gymraeg hyd at 2020 wedi’u amlinellu yn y CSGA ar gyfer 2017-20. Nid yw’r awdurdod wedi gosod targedau ar gyfer % y disgyblion sy’n derbyn addysg Gymraeg y tu hwnt i 2020. Bydd targedau ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn cael eu hadolygu wrth ddiweddaru’r CSGA." 

Rhondda, Cynon, Taf 

Dim targedau tu hwnt i 2020 neu 2022 

 Sir Benfro 

- 

 

Sir Ddinbych 

Dim targedau  

"Mae ein cynllun strategol hyd at 2020 yn cynnwys targedu cynnydd o 2% i dros 28% mewn nifer o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg  erbyn 2020. Rhagwelir cynnydd pellach i 30% erbyn 2021. Nid yw’r Cyngor eto wedi ffurfioli targedau ar y blynyddoedd 2025, 2030, 2035 a 2040." 

 

Sir Fynwy 

- 

Sir Gaerfyrddin 

Dim targedau  

Sir y Fflint 

- 

 

Torfaen 

- 

 

Wrecsam 

Dim targedau tu hwnt i 2020 

"Wrth ymateb i’r ystadegau a ddarperir yn eich gohebiaeth, byddai cymryd ffigyrau Cymdeithas yr Iaith yn llythrennol yn awgrymu y dylid sicrhau tua 3600 o leoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol ar draws addysg cynradd ac uwchradd rhwng nawr a 2025. Rydym yn gwbl gefnogol i’r syniad o fodloni galw cynyddol, ond rhaid i ni anghytuno gyda’r asesiad y byddai darganfod 3600 lle yn ymarferol, ac yn hanfodol, y byddai’r galw yn bodoli am y lleoedd hynny.  Ymhellach at hynny, mae problem genedlaethol yn parhau o safbwynt gweithlu i weithio o fewn addysg cyfrwng Cymraeg ac os na eir i’r afael â hyn ar frys ar lefel uwch, bydd anawsterau o ran recriwtio staff yn wynebu datblygiadau newydd yn y byd addysg cyfrwng Cymraeg."  

Ynys Môn 

- 

 

Y Stori yn y wasg:

Daily Post

Golwg360