Dylai'r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog i bapur ymgynghorol 'Cenedl Un Blaned'

cymdeithas_gwyrdd.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi ei siom o ystyried cyn lleied o ystyriaeth o'r iaith Gymraeg sydd o fewn papur ymgynghorol Llywodraeth y Cynulliad ar gynaladwyedd yng Nghymru. Mae'r papur sydd am weld mabwysiadu rhesymoldeb a thactegau fydd o fudd i ddyfodol a iechyd gynhaliol Cymru wedi bod drwy broses o ymgynghori ers diwedd 2008. Ar hyn o bryd cymal brysiog sydd yn rhoi ystyriaeth i'r Gymraeg fel rhan o'r weledigaeth o wlad gynaliadwy i'r dyfodol.

Yn ôl Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas, Sioned Haf:“Mae'n siom enfawr i weld pa mor pitw yw'r cymal ar yr iaith Gymraeg fel rhan o ystyriaeth y Llywodraeth tuag at greu cynllun datblygu cynaliadwy newydd i Gymru.”Mae Papur Cenedl Un Blaned, sydd yn ymgynghoriad i lunio cynllun i sicrhau Cymru cynaliadwy, ag ond un cyfeiriad at yr iaith Gymraeg mewn un cymal ar ddiwedd yr holl adroddiad.“Mae'n amlwg o ddarllen y papur hwn, fod yr ystyriaeth i'r Gymraeg yn docenistaidd yn hytrach nag yn elfen ganolog o gynaladwyedd yng Nghymru. Mae Cymdeithas yr Iaith yn naturiol gefnogol i unrhyw arweiniad gan y Llywodraeth i dywys Cymru tuag at ddyfodol cynaliadwy, gwyrdd ag iach. Ond, maent yn achosi pryder mawr wrth beidio ag ystyried rôl y Gymraeg, ein cymunedau a'n diwylliant fel rhywbeth sydd yn naturiol gysylltiedig â chynaladwyedd. ”