Galw ar One Parking Solution i ystyried gwerth parhau â’r achos yn erbyn Toni Schiavone

Wedi i apêl ar sail technegol gan gwmni One Parking Solution gael ei ganiatáu mewn llys heddiw (dydd Gwener 26 Ionawr) gall y cwmni barhau i erlyn Toni Schiavone dros hysbysiad cosb parcio a dderbyniodd yn 2020. Er hynny, dywedodd y barnwr, Gareth Humphreys, y dylai’r cwmni ystyried yn ofalus gwerth parhau gydag achos sydd eisoes wedi bod yn “hir, anffodus tu hwnt” ac sydd wedi costio dros £10,000 i’r cwmni parcio hyd yma.

Dywedodd y barnwr bod gan y cwmni 28 diwrnod i benderfynu parhau i erlyn Toni ai peidio, ac argymhellodd bod y cwmni yn ystyried gwerth a budd parhau â’r achos. Dywedodd y barnwr bod y cwmni wedi apelio’r mater technegol er mwyn osgoi achosion tebyg yn y dyfodol.

Wrth siarad yn y llys ar ddiwedd ei achos, dywedodd Toni Schiavone bod y llysoedd wedi cael eu camddefnyddio:
“Gallai’r mater yma fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Hysbysiad Cosb Parcio Cymraeg neu ddwyieithog, fyddai wedi costio tua £60 i’w gyfieithu. Mae’n amlwg erbyn hyn bod gan yr hawlydd fwy o ddiddordeb mewn dial na mewn dangos parch at y Gymraeg. Yn fy marn i mae’r hawlydd wedi ymddwyn yn amharchus, yn afresymol ac yn ddialgar.

“Fe wnaeth One Parking Solutions gyflwyno costau o £10,156.70 i fi mewn llythyr ddoe hefyd. Mae hynny’n hollol amhriodol, yn fygythiad diangen ac yn dangos mai dial yw nod y cwmni.”

Yn cadarnhau’r costau o dros £10,000, dywedodd y barnwr na fyddai’r llys wedi caniatáu costau o’r fath gan eu bod y tu hwnt i reolaeth, gan nad oedd bai ar Toni bod achos llys arall yn cael ei chynnal a nad oedd wedi ymddwyn yn “amhriodol”. 

Ychwanegodd Cai Phillips, Is-gadeirydd grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:
“Galwn ar One Parking Solutions i ollwng yr achos yn erbyn Toni, ac ar Gomisiynydd y  Gymraeg a Jermey Miles i gydnabod bod angen newid y Mesur y Gymraeg (2011) er mwyn cynnwys cwmnïau preifat, fel na allant erlyn unigolyn am fod eisiau byw yn Gymraeg. 
“Mae’r cwmni yma wedi dewis gwneud esiampl o Toni yn hytrach na darparu gwasanaeth Cymraeg syml, iawn. Mae’r achos yma’n dangos pa mor wan yw Mesur y Gymraeg (2011), nad yw’n rhoi hawliau i ni mewn gwirionedd mewn sawl maes.”