Galw ar y Gweinidog Addysg i wireddu uchelgais ymatebion cyhoeddus i Bapur Gwyn Bil Addysg Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, i ddangos yr un uchelgais â phobl Cymru wedi iddo dderbyn ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus i Bapur Gwyn ar gyfer ei Fil Addysg Gymraeg.

Dywedodd Jeremy Miles mewn datganiad i gyd-fynd â chrynodeb o’r ymatebion cyhoeddus:

"Rwy’n falch bod yr adroddiad yn dangos bod cefnogaeth cyffredinol i’r uchelgais a’r amcanion sydd wedi’u hamlinellu yn y Papur Gwyn.  Ar sail y gefnogaeth honno,  gallaf gadarnhau fy mwriad i fwrw ati i gyflwyno Bil a fydd yn mynd i’r afael â’r amcanion polisi a amlinellwyd yn y Papur Gwyn."

Mewn ymateb, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae angen i Jeremy Miles ddangos uchelgais gwirioneddol i gyrraedd disgwyliadau yr ymatebion cyhoeddus i’w Fil Addysg ddrafft. Mae 80% o blant Cymru yn cael eu hamddifadu o’r Gymraeg fel y mae hi oherwydd diffyg buddsoddiad mewn hyfforddiant Cymraeg yn y gweithlu, diffyg dilyniant wrth i blant fynd trwy’r system addysg a'r pharhad gyda dau gymhwyster iaith Gymraeg TGAU, sy’n parhau â threfn Cymraeg ail iaith. Nod y Llywodraeth yw bod 50% o blant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 ond nid yw amddifadu 50% o blant yn llawer o uchelgais, nac yn cyrraedd disgwyliadau cyffredin.”

“Uchelgais gwirioneddol, sy’n cael ei rhannu gan bobl ar hyd a lled Cymru yn yr ymatebion i Fil Addysg y Llywodraeth, fyddai gwneud yn siŵr bod gan bob un plentyn yr hawl i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl. Mae gan y Llywodraeth gyfle i wneud hynny trwy basio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb, ynghyd â buddsoddiad sylweddol a thrawsnewidiol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’r gweithlu angenrheidiol - ond a ydy’r uchelgais ganddo?”