Galw ar y Llywodraeth i gyllido'r Coleg Cymraeg yn uniongyrchol - Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni fod datganiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn mynnu pryder am ddyfodol y Coleg Cymraeg yn profi i'r Gymdeithas fod yn gywir y mis diwethaf i alw ar y Llywodraeth i gyllido'r Coleg yn uniongyrchol. 

Mewn llythyron at y pedair plaid yn y Cynulliad cyn y Nadolig, galwodd Cymdeithas yr Iaith am gamau i sicrhau twf a datblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mewn cyfarfod diweddar rhwng y mudiad iaith a'r Prif Weinidog, dywedodd Carwyn Jones ei fod: "moyn gweld [gwaith y Coleg] yn parhau [ac yn] tyfu".  

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Gan fod prifysgolion Cymru'n derbyn y rhan helaethaf o'u hincwm bellach o ffioedd dysgu, dyfodol cwango fel HEFCW [Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru] sydd yn y fantol, nid y Coleg Cymraeg. Mae eu datganiad nhw ddoe yn profi i ni fod yn gywir i alw ar y llywodraeth i gyllido'n uniongyrchol y Coleg Cymraeg. Nid yw'r Coleg yn chwaraewr bach arall ym marchnad addysg uwch yn ddibynnol ar fympwy y Cyngor Cyllido. Yn hytrach rydyn ni'n wedi galw ar y Llywodraeth i ddatblygu rol y Coleg i fod yn sefydliad blaengar i gyfuno addysg uwch ac addysg bellach er mwyn gwir wasanaethu anghenion Cymry ifainc trwy gyfrwng y Gymraeg" 

Ychwanegodd Jamie Bevan: "Mae'r Coleg yn sefydliad allweddol bwysig o ran gwireddu'r hawl i astudio'n Gymraeg ym maes addysg uwch - a gobeithiwn y gall hefyd wneud hynny'n gynyddol ym maes addysg bellach dros y blynyddoedd i ddod. Mewn cyfarfod diweddar gyda'r Prif Weinidog, buodd o'n gwbl glir i ni ei fod yn gwbl ymrwymedig i'r sefydliad ac am weld gwaith y Coleg yn parhau ac yn tyfu. Wrth gwrs, mae angen sicrhau cyllideb y coleg, ond mae angen mynd ymhellach na hynny, a datblygu mewn meysydd newydd fel addysg bellach. Dylai'r Coleg allu datblygu cyrsiau cyffrous newydd, ac agored i bawb, i sicrhau gweithlu addas i wasanaethu cyrff cyhoeddus Cymru."