Gwahardd Arfon Gwilym rhag mynd i'r Unol Daleithiau

Oherwydd fod Arfon Gwilym wedi cael ei wahardd rhag mynd i Unol Daleithiau'r Amerig i gymryd rhan mewn Gwyl Werin, mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr at Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn erfyn arnynt i newid eu meddwl. Cafodd Arfon Gwilym ei wahardd oherwydd record troseddol sy'n deillio o'i ymwneud dros y blynyddoedd â Chymdeithas yr Iaith GymraegDywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,"Mae Arfon Gwilym wedi chwarae rhan allweddol yn y frwydr dros ddyfodol yr iaith Gymraeg ac mae'n gywilyddus ei fod yn cael ei wahardd rhag mynd i'r Unol Daleithiau oherwydd y gweithgarwch hwnnw. Nid yn unig hynny, ond mae ei ymrwymiad i hybu'r traddodiad canu gwerin yng Nghymru wedi bod yr un mor loyw. Byddai ei wahardd ef rhag mynd i'r Unol Daleithiau rhywbeth yn debyg i Lywodraeth Prydain yn rwystro Martin Luther King rhag dod i Brydain oherwydd ei weithgarwch gwleidyddol ef yn y 1960au."Gwelir copi o'r llythyr yma (Saesneg - PDF)