Gweinidog: amddifadu pobl hŷn o ofal iechyd yn Gymraeg yn "hard sell"

Mae'r newyddion bod Gweinidog y Gymraeg wedi gofyn i swyddogion am syniadau sut i "werthu" rheoliadau iechyd newydd, a fyddai'n atal pobl fregus rhag derbyn gwasanaeth iechyd wyneb-yn-wyneb yn Gymraeg, wedi arwain at alwadau i ail-ystyried cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer deddfwriaeth iaith. 

Ymysg papurau a ryddhawyd i Gymdeithas yr Iaith, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth am drafodaeth am y Safonau Iechyd – rheoliadau sy'n creu hawliau i'r Gymraeg wrth ymwneud â'r gwasanaeth iechyd – mae dogfen a luniwyd gan y Gweinidog Eluned Morgan AC. Yn y papur o fis Rhagfyr y llynedd, mae hi'n gofyn am gyngor gweision sifil ynghylch sut i gyfiawnhau tynnu allan hawl i dderbyn ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg, ac yn gofyn yn Saesneg: 

"So I want to be clear: if a little old 90 year old lady from Gwynedd who speaks poor English goes to hospital and is about to have a complicated operation, she cannot "legally" ask for someone to explain to her in Welsh what is happening, and what we are offering is that the Health Board makes plans so that they can set out to what extent they will be able to carry out clinical consultations in Welsh 5 years from now, which presumably could say that they still won't be able to. (I think this is quite a tough sell! Any ideas?)" 

Cafodd y rheoliadau eu pasio gan Aelodau Cynulliad ym mis Mawrth eleni heb hawl gyfyngedig i dderbyn gwasanaethau iechyd wyneb-yn-wyneb yn Gymraeg roedd y Llywodraeth wedi ymgynghori arni, ac er gwaethaf adroddiad pwyllgor trawsbleidiol oedd yn argymell ei chynnwys 

Ar hyn o bryd, mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i newid Mesur y Gymraeg 2011 – papur gwyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel ymdrech i wanhau y ddeddfwriaeth iaith bresennol. Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

 "Mae'n debyg y bydd y papurau yma'n codi braw ar lawer o bobl sydd o dan yr argraff bod Llywodraeth Cymru o blaid y Gymraeg. I ni, mae'n llai o syndod oherwydd rydyn ni'n gwybod mai agenda'r gwasanaeth sifil yw gwanhau hawliau iaith pobl. Yr hyn rydyn ni'n ei weld yw Gweinidog gwan, sydd, yn lle herio cyfeiriad niweidiol y gwasanaeth sifil a mynnu gwell, yn gofyn i'r gwasanaeth sifil ei helpu i gyfiawnhau camau fydd yn amddifadu'r bobl fwyaf bregus o'u hawliau dynol. Dyna sydd wedi digwydd gyda'r Safonau Iechyd a dyna'u bwriad gyda Bil y Gymraeg. Mae'r Gweinidog yn gweithredu fel llais y sefydliad sydd am wanhau hawliau pobl gyffredin, yn hytrach na llais y bobl sydd am weld amddiffyn ac ehangu eu hawliau iaith. Dyna sy'n arwain at y sylwadau brawychus yma am hawliau hen wraig i ofal iechyd yn Gymraeg." 

"Bydd hyn yn codi cwestiynau am addasrwydd Eluned Morgan a'r tîm o swyddogion sydd ganddi i fod yn gyfrifol am y maes yma o gwbl. Mae'r papurau yma'n dangos bod y Gweinidog a'i gweision sifil yn gwybod beth oedden nhw'n ei wneud amddifadu'r bobl fwyaf bregus o'u hawliau dynol. Yn sgil y wybodaeth newydd yma, mae dyletswydd nawr ar y Llywodraeth i ail-edrych ar y Safonau Iechyd a'u cynlluniau i wanhau Mesur y Gymraeg. Yn lle dilyn cyngor gweision sifil yn ddigwestiwn, fe ddylai'r Gweinidog wrando ar bobl sy'n meddwl am fuddiannau'r Gymraeg, nid sefydliadau a chwmnïau pwerus."