Gwobrau 'caru'r Gymraeg' i gwmnïau - menter bositif Cymdeithas

Gwobr Caerfyrddin Trysor.JPGBydd cynllun gwobrwyo cwmnïau sydd yn cynnig gwasanaethau Cymraeg arbennig o dda yn cael ei lansio gan gyflwynydd teledu Angharad Mair ac aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerfyrddin heddiw.Os ydych chi'n gwybod am fusnes sy'n haeddu gwobr tebyg, cysylltwch â ni.Mae hyn yn drywydd newydd i'r mudiad sydd wedi canolbwyntio ar ymgyrchu'n ddygn dros y blynyddoedd yn erbyn cwmnïau mawr cyfalafol. O dan y cynllun newydd, bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn asesu safon eu gwasanaethau Cymraeg. Bydd cwmnïau bach sydd yn cefnogi cynnyrch lleol ac yn darparu safon uchel yn Gymraeg yn gymwys i'r gwobrau.

Bydd y cyflwynydd teledu Angharad Mair yn ymuno ag aelodau Cymdeithas yr Iaith i lansio'r gwobrau - cwmni gemwaith Trysor yng Nghaerfyrddin yw'r cwmni cyntaf i dderbyn un o'r gwobrau.Wrth gyflwyno'r wobr Caru'r Gymraeg gyntaf bydd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gaerfyddin y Gymdeithas, yn dweud:"Mae'r fenter yn un cyffrous ac mae'n rhan o ymdrechion pellach y Gymdeithas i hybu defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Tra bod yna llawer o gwmnïau sydd yn anwybyddu'r Gymraeg, yn enwedig busnesau mawrion rhyngwladol, mae'n bwysig ein bod yn gwobrwyo'r cwmnïau bach lleol sydd yn meddwl am y gymuned leol."Mae Cymdeithas yr Iaith bob amser wedi cynnal digwyddiadau i hybu defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau, fel gigs a gwahanol fathau o ddigwyddiadau cymdeithasol. Dyma ffordd arall i wthio'r agenda ymlaen."Rydym fel mudiad yn edrych am gyfleoedd eraill i gefnogi arfer da yn y dyfodol. Mae'r Gymraeg yn drysor i bawb yng Nghymru p'un ai os ydynt yn siaradwyr Cymraeg neu beidio. Felly rydym eisiau canmol y cwmnïau bach lleol sydd yn cadw'r iaith yn fyw."Ychwanegodd cyflwynydd teledu Angharad Mair:"Rwy'n falch i gael y cyfle i gymryd rhan yn y cynllun positif ac arloesol hwn gan Gymdeithas yr Iaith. Mae'n hawdd i ni i gyd gwyno, felly mae'n braf cael cyfle i ganmol heddiw. Mae'r cynllun yn gyfle i bawb yng Nghymru gwneud gwahaniaeth a chefnogi'r Gymraeg yn eu cymunedau. Mae hi'n mor bwysig bod ni i gyd yn cyfrannu at wella sefyllfa'r Gymraeg yn ein cymunedau ein hunain."Ychwanegodd Tina Wilson o gwmni Trysor Caerfyrddin:"Rydym yn hapus iawn i dderbyn y wobr yma gan Cymdeithas yr Iaith sydd yn cydnabod ein hymdrechion ac yn barod i edrych ar gwmnïau bach annibynnol sydd yn gweithio ar adnoddau cyfyng. Rydym yn hapus iawn i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac mae'n naturiol i ni wneud. Mae'n holl bwysig ein bod yn cadw presenoldeb y Gymraeg ar y stryd fawr er mwyn cadw y naws Gymraeg yn amlwg yn ein trefi."Gwobr Caru'r Gymraeg.jpgAwards to reward firms for Welsh language services - Western Mail. 14/07/10