Hawliau Iaith newydd - gobeithio am gyfle i ddathlu

Bydd gan bobl a gweithwyr hawliau  newydd wedi pleidlais yn y Senedd heddiw, yn ôl grŵp ymgyrchu sydd wedi brwydro am dros ddegawd dros hawliau o'r fath.  

Wedi pleidlais gadarnhaol ar y Safonau iaith yn y Senedd brynhawn yma, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - grŵp a ddechreuodd ymgyrchu dros ddeddfwriaeth iaith newydd ar ddechrau'r ganrif - wedi cyhoeddi'r hawliau cyffredinol y gall bobl  eu disgwyl o ganlyniad. Mae'r set gyntaf o Safonau yn gosod disgwyliadau newydd o ran darparu gwasanaethau Cymraeg ar awdurdodau lleol, y parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Bydd y dyletswyddau yn cael eu hymestyn i weddill y sector gyhoeddus ynghyd â rhannau o'r sectorau preifat a gwirfoddol.    

Mae'r mudiad wedi cyhoeddi delweddau ar-lein heddiw, sy'n rhestru wyth hawl i'r cyhoedd a phump hawl i weithwyr y dylai deillio o'r Safonau newydd. Maen nhw'n cynnwys yr hawl i gyrsiau addysg, megis gwersi nofio, yn Gymraeg a'r hawl i bob gweithiwr ddysgu'r Gymraeg a gloywi eu hiaith.

Wrth siarad cyn y bleidlais ar lawr y Cynulliad, meddai Siân Howys, cadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,   

"Wedi cyfnod hir o ymgyrchu a hir ymaros, rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni ddathlu'r hawliau newydd hyn. Gobeithio daw'r Gymraeg fwyfwy yn iaith gwaith dros y blynyddoedd nesaf, gan gynyddu defnydd yr iaith a nifer ei siaradwyr. Dros bedair blynedd ers i Fesur y Gymraeg basio, mae'n hen bryd i wasanaethau Cymraeg gwella ac rydyn ni'n disgwyl i'r drefn newydd sicrhau hynny.   

"Dyw'r Safonau heb eu llunio yn y ffordd y byddem fod wedi dymuno. Yn sicr, rydyn ni'n dal i bryderu bod mannau gwan lle mae gwasanaethau sydd wedi eu contractio allan yn y cwestiwn a'r diffyg camau pendant i sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweithio'n fewnol yn Gymraeg. Fodd bynnag, mae'n briodol heddiw i annog yr awdurdodau i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y drefn newydd yn gweithio. Bydd angen ariannu'n iawn ymgyrch farchnata gyda neges syml a chlir fel bod pobl yn deall yr hawliau newydd sydd gyda nhw. Ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y delweddau rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw yn eu hysgogi nhw i sicrhau bod y gwaith marchnata hwnnw yn digwydd.  

Wrth sôn am yr amserlen o osod y Safonau ar gyrff, ychwanegodd Siân Howys:

"Rydyn ni nawr yn disgwyl i'r Comisiynydd weithredu'n gyflym i osod yr holl safonau ar y cyrff yn y set gyntaf yma. Wedi'r cwbl, gyda'r rhan fwyaf o'r Safonau, does ond disgwyl i gyrff gyflawni'r hyn y dylen nhw fod wedi bod yn ei wneud ers ymhell dros ddegawd. Rydyn ni'n dal i aros clywed pryd y bydd gan bobl yr hawl i wasanaethau Cymraeg wrth ymwneud â chwmnïau ynni, post a thelathrebu - mae'n hen bryd i'r Comisiynydd gyhoeddi amserlen. Mae angen i'r Mesur, a basiwyd dros 4 mlynedd yn ôl, gael ei weithredu'n llawn cyn etholiadau nesaf y Cynulliad."