Hepgor dros ddau gant o gyrff o’r Safonau - pryder mudiad

Mae mudiad iaith wedi ysgrifennu at Carwyn Jones a Chomisiynydd y Gymraeg i fynegi pryderon ynghylch y newidiadau yn y rhestr o sefydliadau yng Nghylch 3 y Safonau Iaith.
 
Bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiadau safonau at sylw Gweinidogion Cymru, a fydd yn gyfrifol am lunio’r rheoliadau, ym mis Hydref, ar sail y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad diweddar i gylch 3. Yn ôl y mudiad iaith, gwnaed newidiadau i’r rhestr o gyrff a fydd yn ddarostyngedig i'r Safonau ers cyhoeddi’r rhestr wreiddiol fis Ionawr ac Ebrill eleni, a hynny heb roi gwybod i’r cyhoedd. Pan gyhoeddwyd y rhestr wreiddiol bwriedid i 267 sefydliad gael eu cynnwys yng nghylch 3, ond 64 sefydliad yn unig sydd ar y rhestr erbyn hyn.  
 
Yn y llythyr at y Prif Weinidog a’r Comisiynydd Iaith, meddai Manon Elin, is-gadeirydd Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith:
 
“Heb roi gwybod i'r cyhoedd, nac i Aelodau Cynulliad ychwaith, tynnwyd dros 200 o sefydliadau oddi ar y rhestr o gyrff a fydd yn dod o dan gylch 3 o'r Safonau ym mis Ionawr a mis Ebrill eleni. Hyd y gwyddom, nid oedd dim craffu democrataidd ar y penderfyniad hynny. Drwy'r diffyg gweithredu, rydym yn pryderu eich bod yn amddifadu pobl o'u hawliau iaith a chyfle euraidd i gynyddu defnydd y Gymraeg. Yr hyn sy'n peri'r pryder fwyaf yw nad oes datganiad cyhoeddus wedi bod ynghylch hyn: cawn yr argraff eich bod yn ceisio gwneud y newidiadau heb roi gwybod i'r cyhoedd.
 
"Cyn i'r cyrff gael eu tynnu oddi ar y rhestr, derbyniom awgrym gan y Comisiynydd bod y Llywodraeth wedi mynnu bod cyrff yn cael eu tynnu allan o gylch 3. Serch hynny, nid oes trafodaeth na datganiad cyhoeddus wedi bod ynghylch hyn.”
 
Yn y llythyr mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn i’r Comisiynydd gyhoeddi pryd bydd Safonau Iaith yn cael eu gosod ar y cyrff a dynnwyd oddi ar restr Cylch 3, ac yn galw am restr o gwmnïau a fydd yn cael eu cynnwys yng Nghylch 4, neu’r dyddiad y cyhoeddir y rhestr honno.
 
Ychwanegodd Manon Elin:
 
“Rydyn ni’n dal i aros am y rhestr o’r cwmnïau fydd yn cael eu cynnwys yng Nghylch 4. Mae’n annerbyniol, bron i 5 mlynedd ers i Fesur y Gymraeg gael ei basio, nad ydy’r awdurdodau sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith wedi gweithredu’r ddeddfwriaeth yn llawn, ac yn sgil hynny yn rhoi buddiannau’r cwmnïau mawrion o flaen hawliau iaith pobl Cymru.
 
"Mae dyletswydd statudol ar y Comisiynydd i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y cwmnïau mawrion yn ddarostyngedig i’r Safonau cyn gynted â phosibl. Rydyn ni fel mudiad yn hynod o rwystredig nad ydy hi’n gweithredu’r pwerau sydd gyda hi yn y meysydd pwysig hyn, ac yn osgoi ei dyletswyddau.
 
"Mae’r diffyg gweithredu yma o du’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn amddifadu pobl o’u hawliau iaith ac yn colli cyfle euraidd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg."
 

[Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o gyrff a hepgorwyd o gylch 3 Safonau'r Gymraeg]