Hysbysebion yn nodi tair blynedd o 'oedi' rhag gweithredu addysg Gymraeg i bawb

Cymdeithas yn rhybuddio bod 80,000 o bobl ifanc wedi cael eu hamddifadu o'r iaith   

Mae hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg yn rhybuddio bod degau o filoedd o bobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg oherwydd i Lywodraeth Cymru beidio gweithredu adroddiad a gyhoeddwyd union dair blynedd yn ôl.   

Daw'r newyddion wrth i Aelodau Cynulliad ddadlau ar y mater yn y Senedd prynhawn yma. Mae'r hysbysebion yn honni bod "80% o bobl ifanc Cymru ar eu colled" o beidio â derbyn addysg cyfrwng Cymraeg a bod "tairblynedd o oedi gan y Llywodraeth"  golygu bod "80,000 o blant wedi colli hawl i'r Gymraeg" dros y cyfnod ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Davies. Yn ddiweddarach (10:15yb, Senedd, Bae Caerdydd), bydd fan hysbysebu o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd a fydd yn datgan yr un neges.  

Ym mis Medi 2013, union dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Llywodraeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am newidiadau 'brys', gan gynnwys cael gwared â'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel 'ail iaith' ac yn lle hynny i symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol. Fis Rhagfyr llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei fod "o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol."  

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi bwriad i herio'n gyfreithiol benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith, gan honni ei fod yn groes i bolisi'r Prif Weinidog i'w ddileu.   

Yn siarad cyn lansiad yr hysbyseb o flaen y Senedd, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:   
 
"Dyn ni'n methu dathlu trydydd penblwydd adroddiad Sioned Davies - mae'r oedi wedi amddifadu degau o filoedd o blant rhag caffael y Gymraeg. Mae cyfrifoldeb ar ein gwleidyddion i ddod â'r system bresennol i ben, a'i thrawsnewid er lles y tua wythdeg y cant o'n pobl ifanc sy'n cael eu hamddifadu o'r Gymraeg bob blwyddyn ar y funud. Mae pawb yn derbyn bod angen newidiadau radical, ond mae swyddogion wedi methu â gweithredu prif argymhellion adroddiad Yr Athro Sioned Davies ers tair blynedd.   

"Mae angen trawsnewid y system nid twtio ar yr ymylon. Dywedodd adroddiad Sioned Davies a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2013 bod angen diddymu Cymraeg Ail Iaith a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg ac un cymhwyster newydd i bob plentyn yn ei le. Yn y tair blynedd ers cyhoeddiad adroddiad 'brys' Yr Athro Davies, does braidd dim byd wedi newid. Mae'n hanfodol bod dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yn dod i ben yn 2018 gan sefydlu un cymhwyster cyfun i bob disgybl yn ei le."   

Bydd rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 8fed Hydref yn Llangefni, Ynys Môn, yn canolbwyntio ar alw am addysg Gymraeg i bawb. Ymysg y siaradwyr bydd y Prifardd Cen Williams, yr actor John Pierce Jones a disgyblion lleol.