Lansiad Bws "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg"

'Mae angen mwy o ffocws ar y Gymraeg yn etholiadau'r Cynulliad', dyna oedd neges Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wrth lansio taith bws tu allan i'r Senedd heddiw (12:30pm, Dydd Mercher, 3ydd Chwefror).

Mewn ymdrech i hoelio sylw ar y Gymraeg wrth i Lywodraeth nesaf Cymru gael ei ffurfio dros y misoedd nesaf, mae'r mudiad iaith yn teithio ledled y wlad mewn bws er mwyn hyrwyddo eu gweledigaeth hir dymor i'r iaith.

Y llynedd, cyhoeddodd y mudiad argymhellion manwl i'r pleidiau yn eu dogfen polisi "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 Ymlaen", gan gynnwys cynigion i symud at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob un person ifanc. Mae'r ddogfen yn cynnwys degau o syniadau sy'n anelu at gyrraedd tri nod cyfartal - creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.

Yn ôl y mudiad, dyw'r Gymraeg ddim wedi derbyn digon o sylw yn ystod etholiadau blaenorol y Cynulliad. Meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Dyw'r Gymraeg ddim wedi cael digon o sylw yn etholiadau'r Cynulliad o'r blaen. Pa bynnag blaid, neu bleidiau, sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, bydd angen cynllun manwl hir dymor ar gyfer yr iaith gyda sicrwydd o fwy o adnoddau tu ôl iddo. Rydyn ni eisiau i'r holl bleidiau gyhoeddi cynlluniau mwy manwl nag erioed o'r blaen. Dyna sydd ei angen fel bod modd i bobl trin a thrafod y ffordd gorau ymlaen. Gobeithio bydd ein bws ar ei daith yn fodd o godi ymwybyddiaeth o'n syniadau a'n hymgyrchoedd a hoelio sylw ar y Gymraeg, a hynny yn ystod y cyfnod o bwys hanesyddol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru’n gyffredinol."

"Cyhoeddon ni ein hargymhellion ar gyfer rhaglen Llywodraeth nesaf Cymru'r llynedd, ac rydyn ni wedi cwrdd â'r holl bleidiau yn y Cynulliad i'w trafod. Mae’r cynigion yn becyn o bolisïau sydd wedi eu seilio ar drafodaethau manwl o fewn y Gymdeithas, yn ogystal â gydag arbenigwyr ym maes polisi iaith. Wrth reswm, dydyn ni ddim yn honni bod gennym ni fonopoli ar yr holl bolisïau sy’n mynd i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod. Ond, rydyn ni'n gobeithio'n fawr bod bodolaeth y ddogfen a’r cynigion yn dangos pwysigrwydd etholiad 2016.

"Mae'r etholiad nesaf yn un tyngedfennol i'r iaith. Mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod. Mae angen i ni fel pobl - a'n gwleidyddion - codi ein gorwelion. Nid oes amheuaeth bod canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn amlygu’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg. Ond does dim angen, na diben, anobeithio; yn hytrach, mae angen gweithredu'n fwriadus ar bolisïau a chynlluniau clir. Os yw ein gwleidyddion o ddifrif am gyrraedd amcanion uchelgeisiol, mae angen penderfyniadau dewr ar ddeddfwriaeth, adnoddau, defnyddio cefnogaeth y cyhoedd a chynllunio'r ffordd ymlaen."

Bydd y bws yng Nghaerdydd ar gyfer rali "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg" y grŵp pwyso ar ddydd Sadwrn 13eg Chwefror.