Lidl: angen codi ymwybyddiaeth o hawliau iaith

Mae tro-pedol Lidl yn dangos y dylai Comisiynydd y Gymraeg wneud llawemwy yn rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth cwmnïau o'r hawliau iaith newydd sy'n deillio o Fesur y Gymraeg 2011, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.    

Ers pasio’r mesur mae wedi bod yn anghyfreithlon i unigolyn neu gwmni amharu ar ryddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.  Mae’r mudiad yn galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i ysgrifennu at holl aelodau’r CBI a'r FSB yn eu hysbysu o’r newid yn y gyfraith.   

Meddai Manon Elin James, llefarydd Hawliau Cymdeithas yr Iaith: "Ar yr olwg gyntaf, mae'n edrych fel bod gwaith y Comisiynydd gyda Lidl wedi dwyn ffrwth. Fodd bynnag, Er ei bod bron pedair blynedd ers pasio’r Mesur Iaith, mae’n amlwg nad yw cwmnïau sy’n gweithredu yng Nghymru wedi cael y neges. Rhan o rôl y Comisiynydd yw i hyrwyddo’r gyfraith newydd ac rydym yn galw arni i wneud hynny ar frys er mwyn osgoi unrhyw datganiadau polisi bellach sydd yn amharu ar hawliau pobol Cymru yn ogystal â thorri’r gyfraith." 

Fe fydd swyddogion y Mudiad ymgyrchu yn cwrdd â’r Comisiynydd ar ddydd Iau, Tachwedd 13eg, er mwyn trafod y mater hon. Ychwanegodd Manon Elin James"Mae’n holl bwysig bod y Gomisiynydd yn cyflawni ei rôl i hysbysu cwmniau megis Lidl o gyfraith Cymru a’u dyletswyddau wasanaethu a pharchu hawliau siaradwyr Cymraeg. Diolch i bwysau gan ymgyrchwyr, mae'r Comisiynydd yn llwyddo newid polisïau Lidl: mae angen iddi wneud hynny gyda phob archfarchnad, a chwmnïau eraill, mewn modd trylwyr a chynhwysfawr."

Gallwch weld ein llythyr at gwmni Lidl yma: http://cymdeithas.org/dogfen/llythyr-bennaeth-lidl