Llai'n astudio Cymraeg: Galw am amserlen bendant i ddiddymu Cymraeg Ail Iaith

Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynnu bod Llywodraeth Cymru yn gosod allan amserlen bendant i ddiddymu dysgu'r Gymraeg fel ail iaith erbyn 2018. 

Daw'r newyddion wedi cwymp sylweddol yn nifer y disgyblion a safodd arholiad Cymraeg Safon Uwch eleni i lawr o 678 i 610 – gostyngiad o 10%.  

Mewn cyfarfod gyda'r Athro Graham Donaldson ac uwch swyddogion y Llywodraeth yr wythnos yma mae'r mudiad wedi mynnu y byddai'n groes i farn arbenigwyr a'r Prif Weinidog i barhau â'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith wedi dyfodiad y cwricwlwm newydd yn 2018. 

Mewn llythyr a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams AC yr wythnos yma dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

"Wrth reswm, os ydyn ni am gyrraedd y miliwn, ni all ein Llywodraeth barhau â'r system 'Cymraeg Ail Iaith' sy'n amddifadu tua 80% o'n pobl ifanc, neu oddeutu 27,000, o'r Gymraeg bob blwyddyn. System sydd hefyd yn creu cymhelliant i rai ysgolion, yn enwedig yn y Gorllewin, danberfformio'n ddifrifol o ran sicrhau bod disgyblion yn caffael y Gymraeg yn rhugl.  

"Rydym yn erfyn arnoch felly i wrth-droi penderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith. Gallwch chi benderfynu gwrthdroi safbwynt y corff nawrac mae gennych chi'r cyfle wneud hynnyWedi'r cwbl, pwy arall fydd yn sefyll lan dros y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu hamddifadu o'r Gymraeg, nid oherwydd eu gallu, ond oherwydd methiannau'r gyfundrefn? 

"Mae bellach bron i dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies ym mis Medi 2013 a argymhellodd gyflwyno cymhwyster newydd yn lle Cymraeg Ail Iaith o fewn tair i bum mlynedd.  

"Galwn arnoch felly i gyflwyno un cymhwyster Cymraeg newydd, a fydd yn disodli Cymraeg Ail Iaith, erbyn 2018 fan hwyraf er mwyn gweithredu argymhellion yr adroddiad." 

Mae'r llythyr yn dilyn dwy brotest ddiweddar gydag ymgyrchwyr yn meddiannu swyddfeydd asiantaeth Cymwysterau Cymru fis diwethafCafodd adroddiad yr Athro Sioned Davies ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ystyried sefyllfa dysgu'r Gymraeg fel ail iaith. Ymysg argymhellion yr adroddiad 'Un Iaith i Bawb', a gafodd ei gyhoeddi yn 2013, roedd sefydlu continwwm o ddysgu'r Gymraeg er mwyn symud at gyflwyno mwy a mwy o'r cwricwlwm drwy'r Gymraeg a hefyd sicrhau peth addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn. 

Ychwanegodd Toni Schiavone: 

"Rydym yn galw am ymrwymiad cwbl glir y bydd y Llywodraeth yn diddymu Cymraeg Ail Iaith erbyn 2018 gyda disgyblion yn sefyll yr un cymhwyster cyfun newydd i bob disgybl o 2020 mlaen.  Dydyn ni heb gael sicrwydd o hynny gan y gweision sifil. Mae hynny'n siomedig. Ar hyn o bryd, maen nhw'n symud y cadeiriau ar y Titanic – mae hyd yn oed Cymwysterau Cymru wedi cydnabod hynny!  

"Rhaid cael amserlen er mwyn sicrhau bod yr holl newidiadau cysylltiedig eraill o ran hyfforddi ymarferwyr addysg a dysgu rhagor o bynciau drwy'r Gymraeg yn ein holl sefydliadau addysg yn digwydd. Heb yr amserlen, mae'n debyg na fydd dim byd yn newid fel rydym wedi'i weld yn ystod y tair blynedd bron ers cyhoeddi adroddiad 'brys' yr Athro Sioned Davies." 

[Llythyr llawn at Kirsty Williams]