Llai yn sefyll arholiad Cymraeg Safon Uwch yn 'bryder'

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Gymwysterau Cymru gyhoeddi ei gynllun i sefydlu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl yn dilyn cwymp pellach yn y nifer a safodd yr arholiad Cymraeg Safon Uwch eleni.

Gostyngodd nifer y disgyblion a safodd arholiad Cymraeg Safon Uwch o 609 y llynedd i 565 eleni - gostyngiad o 7%. Mae'r cwymp hwn eleni yn ychwanegol at leihad o 10% yn y niferoedd y llynedd.

Dywedodd Heledd Gwyndaf, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'r cwymp yn destun pryder ac mae angen ei wyrdroi ar frys er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae'r ffigyrau pryderus hyn, sy'n rhan o batrwm, yn tanlinellu gwendid strategaeth iaith y Llywodraeth, sydd heb gynllunio ar gyfer twf digonol yn addysg cyfrwng Cymraeg. Ac er gwaethaf ymrwymiad gan Weinidog, rydyn ni'n dal i aros cynllun pendant gan y Llywodraeth a Chymwysterau Cymru ar gyfer diddymu Cymraeg ail iaith a sefydlu un cymhwyster i bob disgybl yn ei le."

"Dylai'r Gymraeg fod yn iaith i bawb, nid i'r rhai ffodus yn unig. Mae'r ffigyrau heddiw hefyd yn pwysleisio'r angen i sicrhau bod pob ysgol yn darparu rhywfaint o addysg cyfrwng Cymraeg i'w disgyblion fel bod addysg cyfrwng Cymraeg i bawb."