Llongyfarch Alun Ffred Jones

Alun Ffred JonesMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges yn llongyfarch Alun Ffred Jones ar gael ei benodi yn Weinidog Treftadaeth. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,"Dymunwn yn dda i Alun Ffred Jones yn ei swydd newydd. Ein teimlad ar hyn o bryd yw fod Llywodraeth y Cynulliad ar brawf pan ystyrir ei hymrwymiad i'r Gymraeg. Bu'r methiant i sefydlu papur dyddiol yn siom fawr i ni. Ond yn yr Hydref disgwyliwn weld cyhoeddi y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol."

"Mawr obeithiwn y bydd ymrwymiad cadarn i Fesur Iaith cynhwysfawr yn hwnnw. Hwn fydd y maen prawf ar y llywodraeth. Gobeithiwn gael cyfarfod buan gyda'r Gweinidog Treftadaeth newydd i drafod hyn."Hoffai'r Gymdeithas ddatgan hefyd fod croeso i Alun Ffred Jones ymuno gyda Cymdeithas yr Iaith mewn protest dros Ddeddf Iaith y bydd y Gymdeithas yn ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 1 o'r gloch dydd Iau Awst 7.Protest: Mesur Iaith – Y Rhybudd Olaf!1pm, Dydd Iau, 7fed o AwstUned Cymdeithas yr IaithEisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008