'Mae'r caneuon pop gorau yn rhai gwleidyddol'

Cyfarfu cerddorion adnabyddus yn y sîn roc Gymraeg yn Aberystwyth dros y penwythnos i drafod cyflwr y diwylliant a'i rôl wrth hybu negesueon gwleidyddol. 

Ymysg y siaradwyr oedd Griff Lynch o'r Ods, Pat Morgan aelod o'r band Datblygu a'r rheolwr bandiau Rhys Mwyn.  Mae nifer o sylwebwyr wedi codi cwestiynau am faint o negeseuon gwleidyddol sydd i'w cael mewn cerddoriaeth gyfoes ac effaith hynny ar y frwydr dros y Gymraeg. 

Yn siarad o Grymych, meddai Iolo Selyf James, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd hefyd yn aelod o grŵp roc 'Y Ffug': "Mae'r Gymdeithas eisoes wedi bod yn cefnogi'r Sîn Roc Gymraeg dros y degawdau, ond efallai bod modd cryfhau'r berthynas hyd yn oed yn fwy. Yn syml, ble mae'r genhedlaeth newydd o fandiau gwir chwyldroadol fath â'r Anhrefn, y Cyrff a Datblygu? I ble aeth y ffyrnigrwydd a'r gred y gall caneuon ddod â newid go iawn i'n sefyllfa fel Cymry? Mwynheais i'n fawr iawn at glywed barn a phrofiadau rhai o arloeswyr y sîn yn y maes canu protest, a'u dadansoddiad o'r sefyllfa bresennol." 

Wrth ysgrifennu am ei ddisgwyliadau ar gyfer y cyfarfod, dywedodd y sylwebydd cerddorol Rhys Mwyn: "O David R Edwards i Marc Roberts (Cyrff / Catatonia), o Stevens i Jarman, Huw Jones, Dafydd Iwan pwy all ddadlau nad yw’r caneuon pop Cymraeg gorau yn rhai gwleidyddol. Ers Y Blew ym 1967 mae artistiaid roc Cymraeg wedi bod yn llawer mwy na “cerddorion”.  Petai’r peth am y gerddoriaeth yn unig, byddai dim ots am y geiriau."